English icon English
SDA Trophy 2023-2

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi enwau teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant 2025

First Minister announces finalists of St David Awards 2025

Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi enwau'r rheini sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni.

Dyma'r deuddegfed tro i Wobrau blynyddol Dewi Sant gael eu dyfarnu, ar ôl i’r rhai cyntaf yn cael eu cyflwyno yn 2014.

Caiff tri eu dewis yn deilyngwyr ar gyfer pob un o'r 11 o Wobrau, ac mae'r bobl yn y 10 categori cyntaf yn cael eu henwebu gan y cyhoedd:

  • Busnes
  • Dewrder
  • Pencampwr y Gymuned
  • Diwylliant
  • Pencampwr yr Amgylchedd
  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Gwobr Gwasanaeth Cyhoeddus  
  • Chwaraeon
  • Gwirfoddolwr
  • Person Ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Mae'r rheini sy'n cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori yn cael eu dewis gan banel annibynnol, ar sail enwebiadau a anfonir gan bobl ledled Cymru. Mae'r enillwyr yn cael eu dewis gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog sy'n dewis pwy sy'n cael y Wobr Arbennig, a gallai'r Wobr honno adlewyrchu rhywbeth a gyflawnwyd ac y cyd yn ogystal â rhywbeth a gyflawnwyd gan unigolyn.

Bydd pob enillydd yn cael tlws Gwobrau Dewi Sant, sydd wedi'i ddylunio a'i wneud gan artist blaenllaw o Gymru. Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ddydd Iau 27 Mawrth 2025 yn y Senedd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

“Mae cael enwi teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant am y tro cyntaf yn fraint aruthrol. Mae'r Gwobrau yn dod â'r goreuon o Gymru ynghyd, ac yn dangos enghreifftiau gwych inni o'r cyfraniad cadarnhaol y gall pobl ei wneud i fywydau pobl eraill. 

Mae gennym restr anhygoel o deilyngwyr eleni, sy'n llawn straeon ysbrydoledig a hanesion am bobl sydd wedi cyflawni gorchestion aruthrol. Alla i ddim aros i weld y teilyngwyr eto yn y seremoni wobrwyo fis nesaf.”

Mae'r rhestr lawn o deilyngwyr i'w gweld yma