English icon English
E1R32GWWEAQ5tgs-2

Y Prif Weinidog yn lansio cynllun pum mlynedd ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach a thecach

First Minister to launch five-year plan for stronger, greener, fairer Wales

Heddiw (dydd Mawrth 15 Mehefin), bydd y Prif Weinidog yn lansio ei Raglen Lywodraethu – cynllun uchelgeisiol i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb.

Mae'r cynlluniau'n nodi ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf i wella bywydau pobl ledled Cymru.

Mae’r rhaglen yn rhoi’r amgylchedd a mynd i'r afael â newid hinsawdd wrth wraidd popeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu cyfres o ymrwymiadau trawsbynciol, ynghyd ag amcanion llesiant Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn iechyd meddwl
  • Talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal
  • Cyflwyno’r Warant i Bobl Ifanc – rhoi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed
  • Creu Coedwig Genedlaethol a fydd yn ymestyn o'r Gogledd i’r De.
  • Cyflwyno Deddf Aer Glân a gwahardd mwy o blastig untro
  • Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd, carbon-isel i'w rhentu

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud:

"Byddwn yn adeiladu Cymru decach, wyrddach a chryfach lle mae pawb yn gwneud ei ran – dydyn ni ddim eisiau i neb gael ei adael ar ôl na chael ei ddal yn ôl.

"Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn gynllun uchelgeisiol a radical sy'n nodi sut byddwn yn symud Cymru ymlaen, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl a’r meysydd lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl a chymunedau.

"Mae pobl yng Nghymru yn gofalu am ei gilydd ac mae'r rhaglen hon wedi’i seilio ar yr egwyddor honno."