English icon English

Y prosiect gwerth £580,000 sydd yn adfer ac yn ail-igam-ogamu afon yng Nghaerdydd sydd wedi'i difrodi

The £580,000 project restoring and re-wiggling a damaged Cardiff river

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies wedi ymweld â phrosiect gwerth £580,000 sy'n ceisio ailgysylltu nant yng Nghaerdydd â'i sianel a'i gorlifdir hanesyddol, ac annog ailgyflwyno eogiaid, llyswennod a brithyll.

Ar hyn o bryd mae Nant Dowlais - un o lednentydd Afon Elái y tu allan i Gaerdydd - yn methu â chyflawni statws 'da' o dan y fframwaith dŵr oherwydd ffosffad a diffyg pysgod.

Y prif reswm am hyn yw bod cwrs naturiol yr afon wedi ei sythu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hyn yn golygu bod cloddiau graean naturiol wedi eu herydu, a chynnydd mewn gwaddodion yn y dŵr o ganlyniad i hynny, ond nawr, nod prosiect gwerth £583,500 a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei gyflawni gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yw trawsnewid pethau.

Dyma'r prosiect mwyaf o'i fath yn ne Cymru a'i nod yw ailgysylltu'r afon â'i sianel a'i gorlifdir hanesyddol, ar ôl cael ei datgysylltu a'i sythu yn y gorffennol.

Mae'r sianel wedi'i hail-beiriannu i efelychu ei llwybr gwreiddiol, proses a elwir yn ailystumio, sy'n ailgyflwyno crymedd mwy naturiol i ddilyn cyfuchliniau'r tir yn well. Bydd y broses hon yn ychwanegu tua 200 metr o hyd at Nant Dowlais a bydd y cynllun ei hun yn cynnwys mwy na 750 metr o sianel, gan ei adfer i'w gyflwr naturiol.

Bydd ffensys newydd yn caniatáu i lystyfiant afonol ffynnu a bydd bae yfed newydd i wartheg yn atal gwartheg rhag mynd i mewn i'r nant yn uniongyrchol ac yn lleihau'r risg o erydu'r sianel.

Bydd pont rhychwant clir newydd yn disodli cwlfert mynediad sy'n methu, gan wella cysylltedd yn uwch i fyny'r afon.

Wrth siarad ar ymweliad â'r afon, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: "Rwy'n falch iawn pan allwn ariannu prosiectau fel hyn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n hafonydd a bywydau pobl.

"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wella ansawdd dŵr ac adfer ein hafonydd.  Rwy'n obeithiol y gall y gwersi a ddysgwn o'r gwaith hwn ar Nant Dowlais helpu i lywio mwy o brosiectau fel hyn ledled Cymru."

Fe wnaeth McCarthy Contractors - cwmni lleol, gyflogi deuddeg o bobl i weithio ar y prosiect gan olygu bod yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn swyddi a sgiliau yng Nghymru.

Ychwanegodd David Letellier, Pennaeth Gweithrediadau Canolog de Cymru ar gyfer CNC:

"Mae bioamrywiaeth yn cael ei golli'n gynyddol ledled y wlad , a rhaid i ni gymryd camau brys i sicrhau dyfodol rhai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig sydd o dan fygythiad.

"Nod y prosiect uchelgeisiol hwn yw dod â bywyd yn ôl i Nant Dowlais, gan hefyd wella ansawdd y dŵr ac adeiladu gwytnwch i effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.  Mae hyn yn rhan o weledigaeth ehangach Dalgylch Trelái i adfer gwydnwch ecolegol trwy gydol y dirwedd. 

"Mae hon yn enghraifft wych o sut rydym yn gweithio tuag at uchelgeisiau ein cynllun corfforaethol i fod yn natur bositif erbyn 2030."