English icon English

Ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Mehefin a Gorffennaf 2024

Cabinet Secretary response to latest NHS Wales performance data: June and July 2024

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mark Drakeford:

"Mae gofal o ansawdd uchel, sy'n achub ac yn newid bywydau yn cael ei roi bob dydd gan staff hynod o weithgar y Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru, a hynny yn wyneb y galw parhaus a di-ildio ar wasanaethau.

"Rwy'n falch o weld bod nifer y bobl a gafodd y newyddion da nad oes ganddyn nhw ganser wedi cynyddu ym mis Mehefin, a bod perfformiad yn erbyn y targed o 62 o ddiwrnodau wedi gwella i 56.7%.

"Ond mae angen i fyrddau iechyd wneud mwy o hyd i gyrraedd y targed canser cenedlaethol.

"O ran gofal mewn argyfwng, mae'r galw yn parhau i fod yn uchel iawn. Ym mis Gorffennaf, roedd nifer y galwadau 999 lle'r oedd bywyd yn y fantol (coch) a wnaed bob dydd i'r gwasanaeth ambiwlans y pedwerydd uchaf ar gofnod, ac mae'r nifer sy'n mynd i adrannau brys yn parhau i fod yn uwch na'r cyfartaledd hirdymor.

"Gwnaeth perfformiad yn erbyn y targed pedair awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys wella, a gwnaeth yr amser cyfartalog y treuliodd pobl ynddyn nhw cyn cael eu rhyddhau, eu derbyn neu eu trosglwyddo ostwng hefyd ym mis Gorffennaf.

"Gwnaeth amseroedd ymateb ambiwlansys wella ac rydyn ni hefyd wedi gweld gwelliant ym mis Gorffennaf o gymharu â mis Mehefin yn y ffigurau oedi cyn rhyddhau o'r ysbyty.  

"Ond mae'n siomedig bod nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu ac mae'r rhestr aros gyffredinol wedi tyfu ymhellach - yn union fel sydd wedi'i weld mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

"Rydyn ni wedi ei gwneud yn glir i fyrddau iechyd ein bod yn disgwyl iddyn nhw ganolbwyntio ar leihau amseroedd aros hir. Byddwn yn parhau i helpu'r Gwasanaeth Iechyd i wella amseroldeb gofal a gynlluniwyd a gofal mewn argyfwng."