Ymchwil yn dangos gwir cyfraniad treftadaeth at swyddi, economi a chymunedau Cymru
Research reveals true scale of heritage's role in Welsh jobs, economy and communities
Mae stori Cymru yn aml yn cael ei hadrodd drwy ein tirweddau, ein trefluniau ac yn yr adeiladau hanesyddol di-ri a'r henebion o'n hamgylch. Yn ôl ymchwil newydd bwysig wedi'i chyhoeddi heddiw [dydd Gwener 9 Hydref], mae'r mannau hanesyddol hyn – a elwir yn 'amgylchedd hanesyddol' – yn cefnogi bron i 18,000 o swyddi ac yn cyfrannu mwy na £738 miliwn i economi'r wlad bob blwyddyn.
Roedd yr astudiaeth, a gynhaliwyd yn annibynnol gan AMION ar gyfer Cadw (gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy'n gofalu am fannau hanesyddol anwylaf ein gwlad), yn archwilio'r gwerth economaidd a chymdeithasol a'r gwerth ehangach a gynhyrchir gan safleoedd hanesyddol, amgueddfeydd, parciau, tirweddau a sefydliadau treftadaeth ledled Cymru.
Amcangyfrifodd yr astudiaeth fod yr amgylchedd hanesyddol nid yn unig yn cefnogi swyddi i ddegau o filoedd i bobl ac yn cyfrannu bron i dri chwarter £1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ond hefyd mae mwy na 13 miliwn o ymweliadau yn cael eu gwneud bob blwyddyn â safleoedd hanesyddol ac amgueddfeydd achrededig.
Y tu hwnt i'r effeithiau economaidd, canfu'r astudiaeth fod y sector yn cynhyrchu mwy na £107 miliwn o werth cymdeithasol bob blwyddyn drwy wirfoddoli, ymweliadau, addysg ac ymgysylltu â'r gymuned.
Ledled Cymru mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu mwy na 902,000 o oriau at dreftadaeth bob blwyddyn, gan arwain at les gwerth £9.8 miliwn.
Mae'r ymchwil hefyd yn archwilio'r gwerth mae pobl yn ei roi i dreftadaeth hyd yn oed pan nad ydyn nhw eu hunain yn ymweld â safleoedd, gyda llawer yn dweud bod gwybod bod lleoedd hanesyddol yn parhau i ffynnu yn ddigon o destun balchder iddyn nhw.
Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at symud ehangach ar draws y sector tuag at gynhwysiant a hygyrchedd – gyda menter tocyn £1 Cadw ar gyfer pobl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol yn enghraifft dda o hyn, ac wedi caniatáu i nifer sylweddol o bobl ymweld â mannau am y tro cyntaf.
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
"Mae'r ymchwil yn cadarnhau'r hyn mae nifer ohonom wedi credu ers amser: allwn ni ddim fforddio diystyrru pwysigrwydd ein hamgylchedd hanesyddol. Mae'n rhan hanfodol o'n hunaniaeth a'r hyn sy'n ein gwneud yn unigryw fel cenedl. Mae'r dystiolaeth yma yn cadarnhau y dylid trin treftadaeth a diwylliant fel rhan o seilwaith cenedlaethol Cymru, ochr yn ochr â rhwydweithiau hanfodol eraill."
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod y manteision hyn yn dibynnu ar fuddsoddi a chyfranogi parhaus, gyda phwysau hinsawdd, prinder sgiliau a heriau cynnal a chadw i gyd yn peri risgiau i'r amgylchedd hanesyddol.
Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw:
"Mae'r astudiaeth hon yn rhoi darlun clir a chymhellol inni o wir cyfraniad treftadaeth i Gymru. Mae gofalu am ein treftadaeth yn golygu cymaint mwy na gwarchod cestyll a henebion. Rydyn ni'n cefnogi swyddi, mae gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser, ac mae hanes lleol yn destun balchder o fewn cymunedau."
Yr hydref hwn, mae Llywodraeth Cymru yn galw am dystiolaeth i helpu i lunio ei Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd i Gymru a fydd yn nodi gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer diwylliant, treftadaeth, y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Mae pob person, cymuned a sefydliad yn cael ei annog i rannu ei farn ar gyflwr presennol diwylliant a chwaraeon, er mwyn llunio gweledigaeth genedlaethol a rennir a nodi'r camau ymarferol sydd eu hangen i wireddu uchelgais Cymru i ddod yn bwerdy diwylliannol a chwaraeon.
I gyflwyno eich barn, ewch i llyw.cymru a chwiliwch am 'Gweledigaeth ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru'.
Nodiadau i olygyddion
I weld yr ymchwil hon, cliciwch yma: Ystadegau ac ymchwil - Gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol