English icon English

Ymgynghoriad ar Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd cyntaf Cymru

Consultation on Wales’ first Fisheries Management Plans

Mae ymgyngoriadau cyhoeddus ar ddau Gynllun Rheoli Pysgodfeydd ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr wedi'u cyhoeddi heddiw.

Mae'r ddau gynllun yn canolbwyntio ar gregyn y brenin a draenogiaid môr ac maen nhw wedi’u cynnwys yn y grŵp cyntaf o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn y DU i fod yn destun ymgynghoriad.

Bydd y Cynlluniau yn nodi'r polisïau a'r cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli pysgodfeydd er mwyn sicrhau bod stociau pysgod yn cael eu hadfer a'u cynnal ar lefelau cynaliadwy.

Bydd pob Cynllun yn nodi'r stoc bysgod, y math o bysgota, yr ardal dan sylw, yr awdurdod sy'n gyfrifol a'r dangosyddion sydd i'w defnyddio ar gyfer monitro effeithiolrwydd y cynllun.

Gyda'i gilydd, bydd creu'r Ddeddf Bysgodfeydd, y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd a'r Cynlluniau hyn yn newid y ffordd y mae pysgodfeydd yn cael eu rheoli'n sylweddol yn y DU.

Y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd a gyhoeddwyd heddiw yw'r cyntaf o 43 i'w cyhoeddi dros y chwe blynedd nesaf yn y DU.

Bydd yr ymgynghoriad, a gynhelir rhwng 17 Gorffennaf ac 1 Hydref 2023, yn croesawu barn pawb sydd â diddordeb a’r bobl hynny y bydd y polisïau arfaethedig yn effeithio arnynt.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: 

“Rwy'n falch o lansio'r ymgyngoriadau hyn ar y cyd â Llywodraeth y DU yn dilyn cydweithio agos. Mae cregyn y brenin a draenogiaid môr wedi cael blaenoriaeth oherwydd eu pwysigrwydd i Gymru a'u bregusrwydd posibl.

“Mae'r Cynlluniau hyn yn adlewyrchu natur ddatganoledig pysgodfeydd, tra'n cydnabod manteision gweithio cydgysylltiedig. Rydym i gyd eisiau gweld diwydiannau pysgota sy'n gynaliadwy ac yn amgylcheddol gyfrifol, yn ogystal â bod yn hyfyw yn economaidd ac yn ffyniannus.

“Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys y diwydiant, sydd wedi ymgysylltu â ni yn ystod y cam datblygu ac rwy'n edrych ymlaen nawr at glywed barn am y cynigion rydym wedi'u nodi.”

Nodiadau i olygyddion

https://www.llyw.cymru/cynllun-rheoli-pysgodfeydd-cregyn-y-brenin

(dolen yn fyw ddydd Llun)

Mae ymgynghoriad y draenogiaid môr ar gael yma.

https://www.llyw.cymru/gynllun-rheoli-drafft-pysgodfeydd-draenogiaid-mor

(dolen yn fyw ddydd Llun)