English icon English

Yr Ysgrifennydd Iechyd yn llongyfarch enillwyr o Gymru yng ngwobrau'r DU gyfan

Health Secretary congratulates Welsh winners at UK awards

Yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU 2024, cafodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob rhan o GIG Cymru eu gwobrwyo am eu gwaith arloesol, eu cydweithrediad a'u harweinyddiaeth i wella gofal iechyd yng Nghymru a thu hwnt.

Bellach yn ei 19eg blwyddyn, mae'r gwobrau'n dod â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd ynghyd, i gydnabod a dathlu eu gwaith.

Cafodd traean o'r gwobrau eu hennill gan staff y GIG o fyrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg. Fe'u hanrhydeddwyd am ymarfer arloesol gan gynnwys:

  • Treialu gwasanaeth ymyrraeth i sicrhau gwell canlyniadau a helpu pobl i wella eu diabetes math 2 trwy reoli eu pwysau a rheoli maeth yn well
  • Gweithio i wella iechyd meddwl a llesiant staff a chleifion ar draws byrddau iechyd Cymru drwy godi proffil llesiant y tîm, a sefydlu grŵp addysgu am y menopos ac ymarfer corff mewn campfa ysbyty
  • Creu adnodd hyfforddi cost-effeithiol ar-lein, a ddefnyddir ledled y DU, i wella diogelwch staff a chleifion wrth drin silindrau a nwyon meddygol
  • Arweinyddiaeth effeithiol i ddarparu rhaglenni addysg diabetes a rhaglen atal diabetes Cymru gyfan sy'n weithredol ar draws pob bwrdd iechyd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Llongyfarchiadau mawr i holl weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd GIG Cymru a enillodd wobrau yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU eleni!

Rwy'n falch iawn o weld yr holl dalent ac arferion arloesol sydd gennym yn ein gweithlu yng Nghymru yn cael eu cydnabod a'u dathlu.

Dylai'r enillwyr fod yn falch iawn o'u hunain. Mae ehangder y dalent yn dangos cyfraniad gwerthfawr ac ymroddiad y proffesiynau hyn i gadw pobl yn iach a gwella canlyniadau yng Nghymru a thu hwnt.

Dywedodd Ruth Crowder, Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru:

Mae gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn aelodau hanfodol o'r tîm ym mhob gwasanaeth ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.

Maen nhw'n gweithio'n eithriadol o galed i gynnig gwasanaethau arloesol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac o ansawdd uchel ac mae'n wych gweld eu proffesiynoldeb yn cael ei gydnabod yn y gwobrau hyn.

Dywedodd Dirprwy Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru dros Iechyd, Dr Delia Ripley:

Mae'r Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd yn gyfle gwirioneddol i daflu goleuni ar y gwaith hanfodol ac arloesol a wneir gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd.  

Yn ogystal â chydnabod a gwobrwyo ymarfer proffesiynol o ansawdd uchel, mae'r gwobrau hyn yn rhoi llwyfan i'n proffesiynau yng Nghymru ddangos gwerth ac effaith eu sgiliau arbenigol a sbarduno gwelliannau mewn gofal cleifion.

Nodiadau i olygyddion

Notes to editors

The Welsh winners are listed here.

The Welsh Government Award for Value-based Care: Maximising the Expertise of Healthcare Scientists and Allied Health Professionals to Improve Patient Outcomes

Catherine Washbrook-Davies, All Wales Nutrition and dietetic lead for Diabetes, Cardiff and Vale Health Board and NHS Wales Executive

  • Catherine was a winner for effectively utilising her expertise in helping to deliver an intervention service for those in type 2 diabetes remission.  Dietitians from 4 health boards piloted the Total Diet Replacement approach to facilitate remission, an approach which is being adopted throughout Wales.

The Rising Star Award – two Welsh winners for this award

Sophie Roberts-Kozok, Senior Operating Department Practitioner for Anaesthetics – Wellbeing lead, Prince Charles Hospital, Cwm Taf Morgannwg University Health Board

  • Sophie was awarded for her work on raising the profile of team well-being and ‘putting the team first’, which was described as pivotal in improving patient safety, theatre efficiency, and reducing waiting lists for her team and health board.

 Tomos Goodwin, Specialist Physiotherapist, Swansea Bay University Health Board

  • Tomos was awarded for his leadership early in his career, having only qualified 2 years ago. Tomos set up a menopause education and exercise group within the hospital gym for therapy colleagues, and created a referral pathway, which has resulted in ‘exceptional’ uptake and staff feedback.

 

The Allied Health Professions Clinical Leadership Award

Helen Nicholls, Head of Nutrition and Dietetic Services, Cardiff and Vale University Health Board

  • Helen was recognised as a clear example of dedicated and innovative leadership for her significant contributions to healthcare, over 20 years of service. She established both diabetes education programmes and All-Wales Diabetes Prevention Programme, which are operational across all Welsh health boards.

 Award for the Best Collaboration across Clinical, Academia and Industry, sponsored by the Institute of Physics and Engineering in Medicine

Paul Lee, Consultant Clinical Scientist, Head of Medical Equipment Management Service (MEMS) and Chair of the National Association of Medical Device Educators and Trainers (NAMDET)

Jordan Lee, Undergraduate Admin Assistant and Managing Editor MDET Journal, Swansea Bay University Health Board and NAMDET.org 

  • Father and daughter duo - Paul and Jordan Lee - were presented with this award. Paul Lee, and his daughter Jordan, who has no formal medical training but holds an MA in English Literature, have collaborated for more than a year in their spare time to create an e-learning course and 70-page workbook to train staff in the safe handling and use of medical gases and cylinders used in healthcare.
  • The training has been added to the National E-Learning for Health Portal, an award-winning website with more than two million registered users providing online training for health and social care staff across the UK, which will lead to improved benefits for patients and enhance staff health and safety.

For interviews or more information, please contact: joy@chamberdunn.co.uk