Ysgrifennydd y Cabinet 'allan yn y maes' i ddysgu am reoli tir yn gynaliadwy
Cabinet Secretary ‘out in the field’ to learn about sustainable land management
Mae'r Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies wedi bod 'allan yn y maes' yn dysgu am raglen flaengar Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y dystiolaeth sy'n cefnogi polisïau cynhyrchu bwyd cynaliadwy, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd ac atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Cafodd Huw Irranca-Davies weld â'i lygaid ei hun Raglen Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP) yn ystod ei ymweliad â Chanolfan Ymchwil Henfaes ger Bangor yr wythnos ddiwethaf.
Mae ERAMMP yn unigryw gan ei bod yn casglu llawer iawn o ddata o bob tirwedd yng Nghymru, ac yn eu defnyddio i weld tueddiadau amgylcheddol hirdymor ac i fodelu newidiadau ac effeithiau'r dyfodol.
Cesglir data am briddoedd, cynefinoedd, adar, pryfed peillio, blaenau nentydd, pyllau dŵr, nodweddion hanesyddol yn yr amgylchedd a hawliau tramwy cyhoeddus, ymhlith pethau eraill.
Mae'r dystiolaeth a'r deall yn helpu i'n gwneud yn fwy gwydn yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a sicrhau bod Cymru'n barod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies: "Roedd yn ddiddorol iawn cael gweld gwaith monitro a modelu ERAMMP a dwi'n disgwyl ymlaen at weld ffrwyth y dystiolaeth dros y misoedd i ddod. Byddan nhw'n hollbwysig i bolisïau fy mhortffolio.
"Mae'n hanfodol bod gan Lywodraeth Cymru y dystiolaeth a'r wyddoniaeth orau sydd ar gael.
"Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith y mae Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) wedi bod yn ei wneud dros y 10 mlynedd diwethaf i gefnogi Llywodraeth Cymru â'i pholisïau amgylcheddol, gan gynnwys mewn meysydd fel defnydd tir, newid hinsawdd a bioamrywiaeth."
Yn ystod ei ymweliad aeth Ysgrifennydd y Cabinet allan i'r maes i weld sut mae'r rhaglen fonitro yn gweithio a sut mae mesuriadau yn cael eu gwneud.
Clywodd hefyd am y cyfleoedd y mae dal carbon mewn pridd yn eu cynnig, a'r cyfyngiadau hefyd.
Er mwyn sicrhau bod cydweithwyr sy'n datblygu'r polisi Rheoli Tir Cynaliadwy yn cael y dystiolaeth orau a diweddaraf comisiynwyd ERAMMP yn 2019 i gasglu grŵp o wyddonwyr pridd a hinsawdd o safon byd ynghyd, gan gynnwys aelodau'r Panel Rhyngwladol ar Newid yn yr Hinsawdd a enillodd Wobr Nobel yn 2007.
Gyda'i gilydd, maent wedi nodi'r hyn sydd angen ei wneud i gael pridd i ddal carbon a mesur potensial hyn at gyfraniad sector amaeth a defnydd tir Cymru at Sero Net.
Daeth yr awduron i'r casgliad pe bai'r gweithredoedd y maen nhw'n eu hargymell yn cael eu mabwysiadu ar holl briddoedd Cymru byddai dal carbon yn y pridd yn niwtraleiddio hyd at 5-10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr amaethyddiaeth Cymru.
Dywedodd yr Athro Bridget Emmett OBE, arweinydd ERAMMP Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU: "Rydym yn croesawu ymrwymiad mawr Llywodraeth Cymru dros y deng mlynedd diwethaf trwy ariannu tîm ERAMMP i gynnal gwaith monitro, adolygu arbenigol a modelu integredig tymor hir.
"Gan weithio gyda'n partneriaid rydym yn falch ein bod wedi helpu i ddatblygu platfform cadarn o wyddoniaeth i'n helpu i ddatblygu ac asesu polisïau yng Nghymru."
DIWEDD