Ysgrifennydd y Cabinet yn canmol rhaglen sy'n hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o adeiladwyr tai
Cabinet Secretary praises programme training the next generation of housebuilders
Mae cyllid prentisiaethau Llywodraeth Cymru yn cefnogi Persimmon i helpu i hyfforddi dyfodol y sector adeiladu yn eu hacademi bwrpasol.
Mewn partneriaeth â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, nod Academi Adeiladu Persimmon yw llenwi'r bwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru a datblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu a staff safle.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae'r bartneriaeth wedi creu mwy na 150 o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc yng Nghymru.
Mae'r Academi ei hun ger safle adeiladu byw Persimmon yn Llanilid, Rhondda Cynon Taf, lle mae prentisiaid yn cael profiad dysgu byw ac ymarferol o'r dulliau adeiladu diweddaraf.
Bydd hefyd yn darparu mwy na 1,700 o gartrefi i'r ardal, gan gynnwys tai fforddiadwy a chymdeithasol.
Mae myfyrwyr yn dechrau yn y Coleg ar gwrs sylfaen ac ar ôl 12 mis, maen nhw'n cael swydd gyda Persimmon ar brentisiaeth tair blynedd. Mae'r Academi yn hyfforddi prentisiaid iau 14-16 oed hefyd.
Yn ystod ei hymweliad â'r Academi, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, ei thywys o amgylch y ganolfan hyfforddi a'r safle cyfagos a chyfarfod â phrentisiaid i weld sut mae arian Llywodraeth Cymru yn helpu i ddiogelu'r sector adeiladu i'r dyfodol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Roedd yn ysbrydoliaeth imi cael cwrdd â rhai o'n darpar adeiladwyr tai a gweld yr hyfforddiant a'r gefnogaeth maen nhw'n eu cael yn yr Academi.
"Rydyn ni'n gwybod bod angen mwy o gartrefi arnom nawr ac ar gyfer y dyfodol, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn dal i fuddsoddi mewn prentisiaethau adeiladu a chynyddu'r cyfleoedd i bobl ifanc yn y sector adeiladu.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod gennym y sgiliau sydd eu hangen i ddarparu mwy o gartrefi ledled Cymru."
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd lansio cohort newydd prosiect Dyfodol Tai Cymru CIH Cymru yng nghynhadledd TAI 2025 heddiw.
Nod Dyfodol Tai Cymru yw cael gweithwyr tai ifanc proffesiynol i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru drwy greu bwrdd cynghori ar bolisi ar gyfer gweithwyr ifanc proffesiynol.
Dywedodd Stephen Cleveley, Cadeirydd Persimmon yng Nghymru: “Mae’n bleser cael croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’r ganolfan yn Llanilid a dangos iddi ein mentrau adeiladau tai a’n cynlluniau ar gyfer prentisiaid.
“Mae’r sector tai yng Nghymru yn esgor ar fanteision mawr – yn ogystal â darparu’r tai y mae cymaint o’u hangen, mae hefyd yn creu swyddi lleol, yn helpu’r economi i dyfu ac yn cyfoethogi cymunedau.
“Gyda chymorth cynlluniau pwysig y Llywodraeth fel Cymorth i Brynu – Cymru, rydym yn ymrwymo i helpu teuluoedd lleol i ddod yn berchen ar eu tai eu hunain, gan sicrhau yr un pryd bod ein datblygiadau’n gadael gwaddol werthfawr a hirhoedlog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Mae ein partneriaeth â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr yn esiampl wych – helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr a chefnogi agenda dai a sgiliau ehangach Llywodraeth Cymru.”
Dywedodd Matthew Rees, Is-Bennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith a Gweithgarwch Masnachol yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr: “Roedd yn wych croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’n Hacademi heddiw. Mae’r bartneriaeth rhyngom ni a Persimmon yn enghraifft ddisglair o sut y gall cydweithio, addysg, a phrofiad ymarferol greu cyfleoedd gwirioneddol i bobl ifanc.
“Mae’r bartneriaeth lewyrchus hon yn gam hollbwysig tuag at rymuso’r genhedlaeth nesaf o adeiladwyr tai, eu harfogi â’r sgiliau hanfodol i ymuno â’r diwydiant adeiladu, a sicrhau dyfodol cryfach i sector adeiladu Cymru.”
DIWEDD