Ystâd Natur Cymru yn lansio i ddiogelu tir a hinsawdd Cymru

Nature Estate Cymru launches to protect Wales' land and climate

Mae prif dirfeddianwyr Cymru yn uno am y tro cyntaf i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, gyda'r grŵp newydd wedi'i sefydlu i yrru plannu coed a chyrraedd targedau i ddiogelu 30% o dir ar gyfer natur erbyn 2030.

Mae Ystad Natur Cymru, a gynullir gan y Dirprwy Brif Weinidog, yn dwyn ynghyd sefydliadau sy'n gyfrifol am ardaloedd sylweddol o dir Cymru — gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, y tri awdurdod parc cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RSPB, Dŵr Cymru, ac eraill — i gydweithio i gyflawni newid amgylcheddol go iawn ar raddfa fawr. 

Bydd y grŵp newydd yn canolbwyntio i ddechrau ar dargedau plannu coed a chynnydd tuag at ddiogelu 30% o dir, dŵr croyw a môr Cymru ar gyfer natur erbyn 2030. Bydd hefyd yn mynd i'r afael ag ansawdd dŵr, rhywogaethau goresgynnol, risg tanau gwyllt, a mynediad y cyhoedd i natur. 

Bydd aelodau yn treialu a phrofi dulliau arloesol o reoli tir, gan rannu tystiolaeth ac arfer gorau i oresgyn rhwystrau na all sefydliadau unigol fynd i'r afael â hwy ar eu pennau eu hunain. 

Daw creu Ystâd Natur Cymru yn dilyn pasio'r Bil Amgylcheddol (Egwyddorion, Llywodraethu a Targedau Bioamrywiaeth) (Cymru) nodedig, a fydd yn gosod targedau cyfreithiol rwymol ar gyfer adfer natur. Bydd y Grŵp yn helpu Cymru i gyflawni nodau'r gyfraith newydd.

Dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, cynhaliodd y grŵp ei gyfarfod cyntaf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar 12 Mawrth. Dywedodd: "Am y tro cyntaf, rydym yn dod â thirfeddianwyr mawr yng Nghymru at ei gilydd i ysgogi gweithredu i ddiogelu natur a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Gyda'n gilydd, mae ein tasg yn glir – mae'n rhaid i ni blannu mwy o goed a gwarchod mwy o dir ar gyfer natur. Ar ôl pasio ein cyfraith amgylcheddol newydd yn ddiweddar, mae creu Ystâd Natur Cymru yn rhan o bennod newydd o weithredu ac uchelgais."

Eiliad nodedig arall wrth gyflawni'r targed 30x30 yw cyhoeddi'r safle Naturfa cyntaf yng Nghymru.    

Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog hefyd ag un o'r pedwar safle Naturfa cyntaf yng Nghymru - yng Nghwm Colhuw, ger Llanilltud Fawr.   Ynghyd â safleoedd gwarchodedig, bydd safleoedd Naturfa yn ffurfio rhwydwaith ecolegol gwydn ledled Cymru, gan fod o fudd i fyd natur i bawb ac yn cyfrannu at 30x30.  

Yng ngham peilot cyntaf y rhaglen, aseswyd deuddeg safle ar gyfer statws Naturfa, mae pedwar wedi'u hargymell ar gyfer Statws Naturfa Llawn a byddant yn dod yn safleoedd Naturfa cydnabyddedig cyntaf yng Nghymru. Ochr yn ochr â Chwm Colhuw, y rhain yw Bryn Tip, Castell-nedd Port Talbot, Mandinam, Sir Gaerfyrddin, a Gwarchodfa Natur Gymunedol Slash Pond, Aberllydan, Sir Benfro. Mae Gilfach, Sir Gaerfyrddin a Phrosiect y Faenor, Sir Fynwy wedi cael eu hargymell ar gyfer dilyniant ar hyd Llwybr Naturfa.  

Meddai'r Dirprwy Brif Weinidog: "Mae wedi bod yn ardderchog gweld y gwaith yn digwydd yn un o safleoedd Naturfa cyntaf Cymru. 

 "Mae'r lleoedd arbennig hyn yn dyst i'r gofal a'r ymroddiad a roddir gan bobl sy'n gweithio ar lawr gwlad - gan sicrhau etifeddiaeth i'r genhedlaeth nesaf. 

"Gall natur ffynnu dim ond lle mae cynefinoedd yn cael eu gwarchod yn wydn, eu rheoli'n effeithiol - ac roedd ymweliad heddiw yn ddull pwerus o'n hatgoffa o'r hyn sy'n bosibl pan fyddwn yn ymrwymo i hynny."