20 miliwn o brydau ysgol am ddim ychwanegol yn cael eu gweini yng Nghymru drwy fenter "drawsnewidiol"
20 million additional free school meals served up in Wales through “transformational” initiative
Heddiw mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi bod dros 20 miliwn o brydau ychwanegol wedi'u gweini ers dechrau rhoi prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd yng Nghymru ym mis Medi 2022.
Bydd pob plentyn mewn ysgol gynradd a thros 6,000 o ddisgyblion oed meithrin sy’n mynd i ysgol a gynhelir yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn diwedd 2024.
Ond mae ffigyrau newydd yn dangos nawr bod 19 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru eisoes yn cyrraedd pob disgybl cymwys - cyn y targed ym mis Medi.
Roedd £260 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim i bawb. Roedd hyn yn cynnwys £60 miliwn o gyllid cyfalaf i wella cyfleusterau ceginau ysgol, gan gynnwys prynu cyfarpar a diweddaru systemau digidol.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething:
"Mae prydau ysgol am ddim i'n holl ddisgyblion cynradd wedi bod yn drawsnewidiol, drwy gadw arian y mae mawr ei angen ym mhocedi teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Yn fy mlaenoriaethau ar gyfer y llywodraeth, ymrwymais i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weld pobl ifanc yn tyfu i fyny'n teimlo'n hapus ac yn obeithiol ar gyfer y dyfodol.
"Mae codi plant allan o dlodi wrth wraidd ein cenhadaeth, yn enwedig tra bo'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau eithriadol ar deuluoedd ledled Cymru.
"Ni ddylai unrhyw blentyn fynd heb fwyd, a diolch i waith caled ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion - mae mwy a mwy o blant yn cael cinio ysgol maethlon am ddim i helpu i sicrhau eu bod yn gallu canolbwyntio ar ddysgu."
Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i'n holl ddisgyblion ysgol gynradd yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae prydau ysgol am ddim ym mhob un o'n hysgolion cynradd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau miloedd o blant ac yn helpu teuluoedd ledled Cymru ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw yn cael effaith wirioneddol.
"Rydyn ni wedi gallu sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd drwy weithio gyda'n gilydd drwy'r Cytundeb Cydweithio a chyflawni nodau lle mae gennym dir cyffredin, fel y mae pobl Cymru yn disgwyl i ni ei wneud."
Nodiadau i olygyddion
Gweler rhagor o wybodaeth am gymorth i blant ac ysgolion yma: