253 o raddedigion nyrsio ychwanegol yn sicrhau swyddi ledled GIG Cymru
253 additional nursing graduates secure posts across NHS Wales
- Mae 253 o raddedigion nyrsio ychwanegol bellach mewn swyddi ledled GIG Cymru yn dilyn yr Uwchgynhadledd i Raddedigion a gynhaliwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gofal ym mis Mehefin.
- Mae pob un o'r graddedigion nyrsio ym mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor bellach mewn swyddi; mae'r Gweinidog Iechyd a Gofal yn ymweld ag Aberystwyth heddiw.
- Mae digon o swyddi gwag ar gael i helpu'r graddedigion nyrsio sy'n dal heb swydd i gael gwaith.
Mae mwy na 250 o raddedigion nyrsio ychwanegol wedi cael eu penodi i swyddi ledled GIG Cymru ers mis Mehefin.
Daw hyn yn dilyn camau gweithredu ar y cyd gan fyrddau iechyd, prifysgolion, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) a Llywodraeth Cymru yn sgil yr Uwchgynhadledd i Raddedigion a gynhaliwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, ym mis Mehefin.
Mae cyflwyno Cyfnod Dyrannu Ychwanegol wedi bod yn allweddol wrth helpu i benodi graddedigion nyrsio i swyddi yn GIG Cymru. Mae 28 o raddedigion eraill naill ai wedi sicrhau gwaith drwy lwybrau eraill neu nid ydynt ar gael i weithio ar hyn o bryd.
Ar y cyfan, mae digon o swyddi gwag ar gael i helpu'r graddedigion nyrsio sy'n dal heb swydd i gael gwaith. Mae gwaith yn parhau'n uniongyrchol gydag unigolion er mwyn eu paru â'r cyfleoedd hyn mor effeithiol â phosibl.
Heddiw (Dydd Llun 19 Hydref), bydd y Gweinidog Iechyd a Gofal yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth, lle mae pob un o'i graddedigion Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl wedi cael swydd. Mae holl raddedigion nyrsio Prifysgol Bangor hefyd wedi sicrhau gwaith.
Mae cynnydd sylweddol hefyd wedi'i wneud mewn prifysgolion ledled Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu'r ymdrech gydweithredol ehangach gan brifysgolion, byrddau iechyd, AaGIC, PCGC a Llywodraeth Cymru i helpu graddedigion i gael swyddi ac i gadw eu sgiliau o fewn GIG Cymru. Mae AaGIC wedi cydlynu'r ymateb ledled Cymru.
Bydd y gwersi a ddysgwyd o brofiad carfan 2026 yn cael eu defnyddio i helpu i sicrhau bod cynllunio'r gweithlu, comisiynu addysg ac anghenion gwasanaethau yn cyd-fynd yn agosach â'i gilydd yn y dyfodol.
Cyn ei ymweliad â Phrifysgol Aberystwyth, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor: "Rwy'n falch iawn o gael cwrdd â rhai o'r graddedigion nyrsio yn Aberystwyth sydd bellach yn dechrau ar eu gyrfaoedd gyda'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
"Mae'n wych bod holl raddedigion nyrsio prifysgolion Aberystwyth a Bangor bellach wedi sicrhau swyddi, ond mae'r cynnydd hwn i'w weld yn llawer ehangach ledled Cymru. Mae prifysgolion, byrddau iechyd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'i gilydd i helpu graddedigion i gael swyddi, ac mae'r sefyllfa ar draws y sector wedi gwella'n sylweddol ers yr Uwchgynhadledd i Raddedigion.
"Rwy'n deall yn iawn pa mor bryderus y mae'r sefyllfa wedi bod i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd newydd gymhwyso ac sy'n aros i ddechrau eu gyrfaoedd. Mae'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud ers yr Uwchgynhadledd i Raddedigion yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni, ond mae llawer o waith i'w wneud eto, yn enwedig ar gyfer graddedigion bydwreigiaeth, ac rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i helpu graddedigion i gael gwaith ac i gadw eu sgiliau o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru."
Dywedodd Mirain Breese, a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2026: "Fe wnes i ddechrau gweithio fel nyrs yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth yn ddiweddar, ac rwy'n hynod falch o gael defnyddio'r sgiliau a'r profiad ges i yn ystod fy astudiaethau a'm lleoliadau.
"Fe wnes i ddechrau'r cwrs yn union wrth i'm mab ieuengaf ddechrau yn yr ysgol yn llawnamser, ac roedd dychwelyd i fyd addysg a dechrau ar y daith i fod yn nyrs, a hynny wrth fagu teulu, yn heriol. Nid oedd hi bob amser yn hawdd cydbwyso gwaith academaidd, lleoliadau clinigol a bywyd teuluol, ond fe wnaeth y gefnogaeth ges i gan y Brifysgol, y timau lleoliadau, fy nghyd-fyfyrwyr, fy nheulu a'm ffrindiau wahaniaeth enfawr.
"Roedd gallu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn agos at adref, mor bwysig imi. Rwy'n hynod falch fy mod i wedi cwblhau'r cwrs, cymhwyso'n nyrs a chael swydd yn lleol yn gofalu am gleifion yn fy nghymuned fy hun."