Newyddion

Canfuwyd 8 eitem

Welsh Government

Strategaeth ddeng mlynedd nodedig i drawsnewid gofal canser yng Nghymru

  • Mae Strategaeth Ganser Genedlaethol 10 mlynedd yn cael ei datblygu i drawsnewid y ffordd o atal y clefyd, rhoi diagnosis ohono a’i drin yng Nghymru.
  • Bydd y strategaeth yn cael ei llywio gan alwad ffurfiol am dystiolaeth gan gleifion, gofalwyr, clinigwyr, elusennau a'r cyhoedd ynghyd â phartneriaid rhyngwladol.
  • Bydd yn cael ei chyhoeddi i gyd-fynd â Diwrnod Canser y Byd ar 4 Chwefror 2027.
Welsh Government

Cymru’n cymryd camau nawr i baratoi'r GIG a gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cynnar i baratoi'r GIG a gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf, gan ganolbwyntio ar bum maes allweddol.
  • Gofynnir i GIG Cymru gynllunio ar gyfer y gaeaf yn gynharach eleni a symud i ddull cynllunio gydol y flwyddyn gan ystyried yr holl ofynion tymhorol.
  • Bydd y gwaith o ehangu'r brechlyn RSV i'r rhai dros 65 oed sy’n wynebu risg clinigol yn dechrau ym mis Medi.
Welsh Government

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru i drawsnewid bwrdd iechyd y Gogledd

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau uniongyrchol i ysgogi gwelliannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn hytrach na'r bwrdd iechyd yn arwain y gwelliannau ei hun.
  • Bydd panel annibynnol yn adolygu meysydd, gan gynnwys diogelwch cleifion, arweinyddiaeth a diwylliant, ac yn adrodd yn ôl erbyn diwedd mis Hydref.
  • Dywed y Gweinidog Iechyd fod hwn yn ddatganiad clir o ymrwymiad i gefnogi gwelliannau ac i sicrhau bod pobl y Gogledd yn cael y gofal diogel ac amserol o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu.
 Cabinet Minister for Health and Care - Mabon ap Gwynfor

Grŵp arbenigol i gynllunio hybiau llawfeddygol newydd i leihau amseroedd aros y GIG

  • Bydd grŵp newydd o lawfeddygon, nyrsys a rheolwyr y GIG yn bwrw ati i gynllunio hyd at ddeg hwb gofal wedi’i gynllunio ledled Cymru
  • Bydd yr hybiau yn cynyddu’r capasiti llawfeddygol a diagnostig ac yn diogelu gofal wedi’i gynllunio rhag pwysau argyfwng.
  • Disgwylir i’r cynllun cyflawni gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2026.
 Cabinet Minister for Health and Care - Mabon ap Gwynfor cropped

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros am driniaeth y GIG

  • £100m i helpu i leihau rhestrau aros ac amseroedd aros y GIG. £25m ar gyfer canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd. £20m ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol ar draws ystad y GIG.
  • Mae ffigurau newydd yn dangos bod y rhestrau aros a'r amseroedd aros wedi cynyddu ym mis Ebrill, cyn i Lywodraeth newydd Cymru gael ei rhoi ar waith. Dywed y Gweinidog Iechyd bod cynlluniau i gyflawni gostyngiadau parhaol.
  • Mae angen newid y ffordd mae'r GIG yn gweithio - gwneud yn siŵr bod cleifion yn symud drwy'r system yn fwy llyfn, o'u hatgyfeiriad cyntaf yr holl ffordd i'w triniaeth.
Welsh Government

Llywodraeth newydd Cymru yn cyhoeddi cyllid ychwanegol gwerth £145m ar gyfer GIG Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd cyllid ychwanegol gwerth £145m yn cael ei fuddsoddi yn GIG Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

 Cabinet Minister for Health and Care - Mabon ap Gwynfor

Y Gweinidog Iechyd newydd yn nodi cynlluniau beiddgar ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

  • Hyd at ddeg canolfan llawfeddygol a diagnostig newydd i gael eu datblygu ar draws Cymru dros bedair blynedd
  • Arosiadau o ddwy flynedd i gael eu dileu ymhen misoedd
  • Meddygon teulu newydd, gofal y tu allan i oriau wedi’i ehangu a gwasanaethau cymunedol wedi’u cryfhau i leddfu’r pwysau ar ysbytai
 Cabinet Minister for Health and Care - Mabon ap Gwynfor

Llywodraeth Cymru yn gwneud addewid i leihau amseroedd aros y GIG

Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn cyflymu’r gwaith i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael eu gweld yn gynt ar gyfer cael triniaeth gan y GIG.