Ymateb y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i ddata diweddaraf y GIG o ran Perfformiad a Gweithgarwch: Gorffennaf ac Awst 2026

Cabinet Minister for Health and Care response to latest NHS Activity and Performance data: July and August 2026

Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn ymateb i ddata diweddaraf GIG Cymru o ran perfformiad a gweithgarwch.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor:

“Mae'r ffigurau hyn yn siomedig ac nid yw perfformiad lle rydyn ni eisiau iddo fod. Mae'r ôl-groniad rhestrau aros rydyn ni wedi'i etifeddu yn parhau i fod yn rhy uchel, ac mae mynd i'r afael â hyn yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni.

“Dyma pam rydyn ni'n rhoi mesurau ar waith a fydd yn gwella amseroedd aros i bobl ar sail gynaliadwy ac yn sicrhau nad oes neb yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.

“Yn gynharach y mis hwn cyhoeddais sut rydym yn defnyddio dull gweithredu sy’n cael ei arwain gan glinigwyr i glirio'r rhestrau aros hiraf a dod â'r rhestr aros gyffredinol i lawr i lefelau cyn y pandemig cyn diwedd tymor y Senedd hon.

“Dyma ateb newydd i hen broblem, ac rwy'n hyderus y bydd yn lleihau'r ôl-groniad presennol, ond hefyd yn ei gadw i lawr yn barhaol. 

“Byddwn yn gwneud hyn drwy sicrhau bod pobl yn dechrau eu triniaeth yn gyflymach, gweithio gyda byrddau iechyd i hybu gallu llawfeddygol a diwygio apwyntiadau dilynol i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu gweld am y tro cyntaf.

“Mae ein cynlluniau i ailosod sut mae gofal a gynlluniwyd yn cael ei ddarparu yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gan fuddsoddiad o £145 miliwn ychwanegol yn GIG Cymru y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cyllid yn cynnwys £100 miliwn i gefnogi ein nodau o leihau amseroedd aros y GIG, £25 miliwn mewn canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd, a £20 miliwn ar waith cynnal a chadw hanfodol ar draws ystad y GIG.

“Mae byrddau iechyd bellach yn rhoi’r cynlluniau hyn ar waith ac mae angen inni roi amser iddyn nhw hidlo drwy'r system a chael effaith. Rwy'n disgwyl eu gweld nhw'n gwneud cynnydd yn fuan.

"Rwy'n croesawu'r cynnydd mewn gofal brys a gofal mewn argyfwng, yn enwedig o ran trosglwyddo cleifion o ambiwlansys, lle roedd perfformiad o fewn 45 munud y gorau ers mis Mai 2021. Mae’r amseroedd ymateb i'r digwyddiadau mwyaf difrifol ac amseroedd aros 12 awr mewn adran achosion brys hefyd wedi gwella. Ond nid yw'r sefyllfa gyffredinol yn ddigon da, ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd a chyrff y GIG gynnal momentwm a chyflawni gwelliant pellach, parhaus.

“Dechreuodd bron i 2,250 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar gyfer canser ym mis Gorffennaf, sy’n welliant o'i gymharu â'r mis blaenorol, tra bod mwy na 15,000 o bobl wedi cael y newyddion da nad oedd canser arnynt. Gwellodd perfformiad yn erbyn y targed canser 62 diwrnod ym mis Gorffennaf hefyd.

“Mae staff anhygoel ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol yn parhau i weithio'n ddiflino i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion ac am bopeth maen nhw'n ei wneud, yn aml o dan bwysau mawr, i ddarparu gofal a thosturi.”