Ymateb y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i ddata Perfformiad a Gweithgaredd diweddaraf y GIG: Mai a Mehefin 2026
Cabinet Minister for Health and Care response to latest NHS Activity and Performance data: May and June 2026
Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn ymateb i ddata perfformiad a gweithgaredd diweddaraf GIG Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor: "Mae fy mhrif flaenoriaeth yn glir – lleihau'r rhestrau aros hir rydyn ni wedi'u hetifeddu gan y Llywodraeth flaenorol, helpu'r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf, ac adeiladu gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru sy'n gallu sefyll yn gryf am genedlaethau i ddod.
"Mae'r ystadegau heddiw yn siomedig ac yn annerbyniol. Mae gormod o bobl yn aros am driniaeth, ac maen nhw'n aros yn rhy hir. Mae gennym gynllun i fynd i'r afael â hyn – cynllun fydd yn cyflawni'r newid gwirioneddol y mae angen i bobl Cymru ei weld ac y maen nhw'n ei haeddu.
"Rydyn ni'n gwneud pethau'n wahanol i'r gorffennol. Drwy ein rhaglen hybiau llawfeddygol dan arweiniad clinigol, mi fyddwn ni'n cryfhau capasiti lleol, yn sicrhau bod cleifion yn cael eu trin yn gynt ac yn rheoli'r galw am ofal wedi'i gynllunio yn fwy cynaliadwy ar draws y gwasanaeth iechyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni'r buddsoddiad sydd ei angen i leihau rhestrau aros eleni.
"Ym mis Mehefin, mi welsom ni'r nifer uchaf erioed o bobl yn mynd i Adrannau Achosion Brys ar gyfer unrhyw fis Mehefin. Mi wnaeth cyfnod hir o dywydd sych arwain at fwy o bobl yn troi i fyny gyda phroblemau sy'n gysylltiedig â gwres, gan roi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd a gofal. Mae paratoi drwy gydol y flwyddyn yn hanfodol er mwyn rhag-weld risgiau tymhorol, fel tonnau gwres. Mi fydd y Llywodraeth hon yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau ein bod yn gwneud hynny'n gyson. Rydyn ni eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer y pwysau allwn ni ei ddisgwyl dros y gaeaf.
"Yn y cyfamser, mae targed amser ymateb y gwasanaeth ambiwlans i gleifion yn y categori porffor – y rhai sy'n profi ataliad y galon neu ataliad anadlol ac sydd angen ambiwlans ar unwaith – wedi'i gyrraedd yn gyson dros y deuddeg mis diwethaf. Dyma rywbeth dw i'n falch ohono.
"Dw i eisiau cydnabod y bobl anhygoel sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd ac ym maes gofal cymdeithasol. Bob dydd, maen nhw'n troi i fyny ac yn rhoi popeth sydd ganddyn nhw – yn aml dan bwysau enfawr. Mae eu hymroddiad a'u tosturi yn rhywbeth y dylen ni i gyd fod yn falch ohono. Diolch am bopeth rydych chi'n parhau i'w wneud."