Cleifion i elwa ar gael diagnosis a thriniaeth yn gyflymach o dan ddiwygiadau i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru
Patients to benefit from faster diagnosis and treatment under NHS Wales reforms
- Dull sy’n cael ei arwain gan glinigwyr o glirio’r arosiadau hiraf a dod â’r rhestr aros gyffredinol i lawr i lefelau cyn y pandemig cyn diwedd tymor y Senedd hon.
- Rhagor o gapasiti llawfeddygol sy’n targedu’r arbenigeddau lle mae’r arosiadau hiraf.
- Gwelliannau i’r ffordd y mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio a’r ffordd y mae apwyntiadau dilynol yn cael eu rheoli, gan ryddhau degau o filoedd o leoedd.
Heddiw (dydd Iau 3 Medi), mae Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd cyllid sylweddol yn torri rhestr aros GIG Cymru ac yn rhoi terfyn ar arosiadau o ddwy flynedd am driniaeth.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Mabon ap Gwynfor, y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, fod £145m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn GIG Cymru y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cyllid yn cynnwys £100m i gefnogi nodau Llywodraeth Cymru o leihau amseroedd aros y GIG, £25m mewn canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd, a £20m ar waith cynnal a chadw hanfodol ar draws ystad y GIG.
Mae’r dull o dan arweiniad clinigwyr sy’n cael ei gyhoeddi yn nodi sut y bydd byrddau iechyd yn gweithio gyda’i gilydd i dargedu’r arosiadau hiraf, gwella cynhyrchiant, ehangu capasiti cynaliadwy a pharhau i drawsnewid gwasanaethau gofal a gynlluniwyd.
Bydd hyn yn allweddol i leihau amseroedd aros a dod â’r rhestr aros gyffredinol i lawr i lefelau cyn y pandemig cyn diwedd tymor y Senedd hon.
I gleifion, mae hyn yn golygu gwasanaeth iechyd sy’n canolbwyntio ar asesu pobl, rhoi diagnosis iddynt a’u trin yn gyflymach, yn hytrach na threulio misoedd neu flynyddoedd yn symud rhwng gwahanol gamau o’r system.
Bydd gan fyrddau iechyd, gan weithio gyda’i gilydd, ragor o gapasiti llawfeddygol, gan gynnwys ar benwythnosau, a bydd yr arbenigeddau hynny lle mae’r amseroedd aros hiraf yn cael eu targedu.
Bydd atgyfeiriadau hefyd yn cael eu hadolygu’n gynharach fel bod pobl yn cael y cyngor neu’r profion cywir neu’r driniaeth gywir y tro cyntaf. Gall cynnal adolygiad clinigol yn gynharach helpu i osgoi oedi diangen, cyfeirio cleifion at y llwybr mwyaf priodol a sicrhau bod y capasiti sydd ar gael yn mynd i’r meysydd hynny lle mae ei angen fwyaf.
Mae llawer o gleifion yn mynd i apwyntiadau dilynol rheolaidd nad oes arnynt eu hangen mwyach. O dan y dull newydd, bydd cleifion yn cysylltu â gwasanaethau pan fydd angen cymorth arnynt yn hytrach na mynd i apwyntiadau nad oes eu hangen arnynt o bosibl. O ganlyniad, bydd degau o filoedd o apwyntiadau yn cael eu rhyddhau ar gyfer gweithgareddau clinigol eraill, gan gynnwys ar gyfer y rheini sy’n aros i gael eu gweld am y tro cyntaf.
Bydd sganio a phrofi cyflymach yn ganolog i’r dull gweithredu, a bydd buddsoddi mewn capasiti diagnostig ac offer digidol yn lleihau’r amser rhwng atgyfeirio cleifion a rhoi diagnosis.
Bydd safonau newydd hefyd yn sicrhau mai’r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf fydd yn cael eu trin nesaf, oni bai bod rheswm clinigol clir dros roi blaenoriaeth i rywun arall.
Bydd Mabon ap Gwynfor yn ymweld ag Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni heddiw i gyfarfod â staff ac i weld y theatrau, y ganolfan cataractau ranbarthol a’r cyfleusterau endosgopi.
Dywedodd: “Nid yw aros dwy flynedd am ofal a gynlluniwyd yn dderbyniol. Mae’r buddsoddiad hwn yn ddibynnol ar fod byrddau iechyd yn newid y ffordd y maen nhw’n gweithio, yn barhaol felly. Dyma fydd yn sicrhau nad yw’r cynnydd dw i’n disgwyl ei weld yn llithro’n ôl, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Dyna’r gwahaniaeth rhwng datrysiad tymor byr a newid parhaol.
“Dylai cleifion dderbyn cyngor, diagnosis a thriniaeth amserol drwy wasanaethau sydd wedi’u cynllunio ar sail eu hanghenion, nid ar sail ffiniau sefydliadol.
“Ochr yn ochr â chapasiti ychwanegol, rydyn ni’n cefnogi newidiadau sy’n gwneud gwasanaethau yn fwy cynaliadwy, gan gynnwys rheoli atgyfeiriadau yn well, rhagor o gapasiti diagnostig, rhagor o weithgaredd mewn canolfannau llawfeddygol a threfniadau dilynol gwell.
“Fyddai dim o hyn yn bosibl heb waith caled ac arbenigedd staff y GIG. Mae eu harweiniad nhw’n gwbl ganolog i’r dull hwn, ac mae’n rhaid i bob bwrdd iechyd weithio gyda’i gilydd nawr i sicrhau gwelliannau pellach i gleifion.”
Dywedodd Richard Egan a Ken Harries, Cyfarwyddwyr Clinigol Cenedlaethol Gofal a Gynlluniwyd GIG Cymru a Llawfeddygon Ymgynghorol: “Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw. Mae’n arbennig o foddhaol gweld y pwyslais clir ar foderneiddio a chynaliadwyedd.
“Gall y dull hwn wireddu’r trawsnewidiad sydd ei angen ar wasanaethau er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel, sy’n ddarbodus ac yn effeithlon i bobl Cymru.
“Diolch i’r buddsoddiad hwn, byddwn ni'n gallu gwneud defnydd effeithiol o’r capasiti presennol, datblygu canolfannau llawfeddygol a diagnostig effeithlon, a lleihau amseroedd aros yn sylweddol.”