£121 miliwn ar gyfer hwb newydd GIG Cymru i leihau amseroedd aros

£121m for new NHS Wales hub to cut waiting times

Bydd hwb newydd o’r radd flaenaf, sydd â’r nod o leihau amseroedd aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a gwella mynediad at driniaethau, yn elwa ar gymorth ariannol gwerth £121 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cyllid ar gyfer Parc Iechyd Llantrisant yn golygu y bydd chwe theatr llawdriniaethau newydd yn cael eu hadeiladu a 54 o welyau yn cael eu darparu mewn cyfleuster pwrpasol a fydd yn canolbwyntio i ddechrau ar lawdriniaethau gosod cluniau a phengliniau newydd.

Bydd yr Hwb Arthroplasti Orthopedig Rhanbarthol hefyd yn cynnwys cyfleusterau diagnostig ac adfer, a fydd yn helpu cleifion i wella’n gynt ar ôl llawdriniaethau.

Unwaith y bydd ar agor, bydd yr Hwb yn cyflawni 3,000 o lawdriniaethau bob blwyddyn, ar gyfartaledd. Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor fod hyn yn dangos hyd a lled uchelgais newydd Llywodraeth Cymru a’r bwriad i gyflawni ar ei blaenoriaeth allweddol o leihau’r amseroedd aros a etifeddwyd a gwreiddio cynaliadwyedd tymor hir yn y system er mwyn cadw amseroedd aros i lawr.

Mae tri Bwrdd Iechyd, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wrthi’n cydweithio ar y prosiect. Disgwylir i’r gwaith ar y cyfleuster newydd ddechrau y mis hwn, gyda disgwyl i’r gwaith adeiladu orffen erbyn diwedd 2028 ac yna agor yr hwb i gleifion yn gynnar yn 2029.

Mae’r hwb newydd yn ddatblygiad o drawsnewidiad blaenorol y safle o ffatri peirianneg awyrennau i gampws iechyd ac yn arwain at gam nesaf y cynllun ehangach i greu cyfleusterau modern a phwrpasol ar gyfer gofal wedi’i gynllunio yn y de-ddwyrain.

Drwy ddod â llawdriniaethau cluniau a phengliniau at ei gilydd mewn un ganolfan bwrpasol, disgwylir i’r hwb helpu i sicrhau na fydd cleifion yn y rhanbarth, erbyn 2030, yn aros mwy na 36 o wythnosau am driniaeth. Mae meddygon hefyd yn disgwyl trin mwy o gleifion yn gynt a helpu mwy ohonynt i fynd adref ar yr un diwrnod â’u llawdriniaeth.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor: “Mae’r cyllid hwn yn hwb sylweddol i’r gwaith o adeiladu cyfleuster pwrpasol newydd ym Mharc Iechyd Llantrisant - wedi’i gynllunio i leihau amseroedd aros, a sicrhau bod pobl yn cael y triniaethau sydd eu hangen arnyn nhw’n gynt.

“Unwaith y bydd ar agor, fe fydd yr Hwb newydd yn cyflawni miloedd o lawdriniaethau ac yn gwreiddio cynaliadwyedd parhaol yn y system. Dyma beth yw gwir fuddsoddi yn yr NHS - nid datrysiad sydyn, ond y capasiti sydd ei angen arnon ni i gael gwared ar yr ôl-groniad o achosion a chadw amseroedd aros i lawr yn y dyfodol.”