Ymateb y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i ddata diweddaraf y GIG o ran Perfformiad a Gweithgarwch: Mehefin a Gorffennaf 2026
Cabinet Minister for Health and Care response to latest NHS Activity and Performance data: June and July 2026
Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn ymateb i ddata diweddaraf GIG Cymru o ran perfformiad a gweithgarwch.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor: “Mae’r ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw am berfformiad yr NHS yn dangos y pwysau sylweddol y mae gwasanaethau brys ledled Cymru wedi’u hwynebu ym mis Gorffennaf. Roedd dros 104,000 o ymweliadau ag adrannau achosion brys, sy’n gyfartaledd o 3,357 o ymweliadau y dydd – dyma’r nifer uchaf erioed – a dw i’n cydnabod bod gormod o lawer o bobl yn dal i aros yn rhy hir am ofal brys.
“Mae’r ystadegau yn rhai enbyd, a dw i ddim yn gwadu hynny. Mae’r perfformiad o ran amseroedd aros cyffredinol yn bell o’r hyn y dylai fod. Mae pobl Cymru yn haeddu gwell, ac fel Llywodraeth newydd, rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i greu gwasanaeth iechyd yng Nghymru lle mae pobl yn cael eu gweld a’u trin yn llawer cynt nag sy’n digwydd heddiw. Y tu ôl i bob rhif yn yr ystadegau diweddaraf mae rhywun sy’n aros ac sydd eisiau atebion. Dyna pam mai mynd i’r afael â’r rhestrau aros yw fy mlaenoriaeth bennaf.
“Yn ddiweddar, cyhoeddais gyllid ychwanegol gwerth £145m i gefnogi ein NHS. Yn ystod yr wythnosau nesaf, mi fydda i’n datgelu cynllun o ran sut y byddwn ni’n buddsoddi eleni i fynd i’r afael â’r rhestrau aros a’r amseroedd aros. Yn sicr, mi fyddwn ni’n mynd ati mewn ffordd wahanol iawn. Rydyn ni o ddifri’ o ran gweithredu mewn modd gwahanol. Mae’n newid pendant a fydd yn golygu bod pobl yn cael eu gweld yn gynt. Mi fydd hyn yn lleihau amseroedd aros, yn lleihau rhestrau aros ac, yn bwysicaf oll, yn eu cadw’n fyr - bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth parhaol y bydd pobl yn ei deimlo a’i weld.
“Mae ein staff anhygoel o fewn y gwasanaeth iechyd ac ym maes gofal cymdeithasol yn rhoi o’u gorau bob dydd, yn aml o dan bwysau sylweddol ac yn wyneb system y mae angen ei newid. Dw i’n deall hynny, ac mae’n sefyllfa dw i’n benderfynol o fynd i’r afael â hi. Mae lleddfu’r pwysau hwnnw a rhoi’r cymorth a’r system sydd eu hangen arnyn nhw yn rhan bwysig o’r gwaith sy’n cael ei wneud, a bydd yn cael ei adlewyrchu yn y cynllun y byddaf yn ei gyflwyno.
“Mae’n rhaid inni greu NHS sy’n gweithio’n well dros gleifion a’r bobl sy’n darparu’r gofal hwnnw.”