Y Gweinidog Iechyd yn galw ar arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd i wella gwasanaethau
Health Minister calls on NHS leaders to improve services
- Mae'r Gweinidog wedi nodi uchelgeisiau ar gyfer gwell gwasanaethau yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir
- Gofynnir i arweinwyr iechyd a gofal weithio gyda'i gilydd i wella canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau
- Bydd cyfnod newydd o ymgysylltu yn helpu i lunio gweledigaeth ar y cyd ar gyfer dyfodol iechyd a gofal
Rhaid i arweinwyr iechyd a gofal ledled Cymru edrych y tu hwnt i ffiniau sefydliadol. Rhaid iddynt weithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau iechyd a rhoi gwell gofal i bobl, meddai'r Gweinidog Iechyd.
Wrth siarad yng Nghynhadledd Flynyddol Conffederasiwn GIG Cymru, dywedodd y Gweinidog fod Cymru'n wynebu heriau sylweddol yn sgil galw cynyddol, poblogaeth sy'n heneiddio, anghenion mwy cymhleth ac anghydraddoldebau iechyd parhaus.
Rhybuddiodd nad yw 'gwneud mwy o'r un peth yn opsiwn'. Dywedodd fod hwn yn gyfle i newid gwasanaethau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol fod yn iachach ac yn hapusach, a byw'n annibynnol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd dros y misoedd nesaf i gefnogi sefydliadau sy'n cydweithio i wella iechyd a gofal i bobl ledled Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor:
"Os ydyn ni eisiau canlyniadau gwahanol i bobl Cymru a gwasanaeth iechyd sy'n parhau i fod yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod, dydy gwneud mwy o'r un peth ddim yn opsiwn.
"Mae ein huchelgais ni'n syml: mwy o bobl yn byw'n hirach, yn mwynhau iechyd da ac yn aros yn annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau am gyfnod hwy.
"Mae heddiw'n ddechrau cyfnod newydd o ymgysylltu a chydweithio. Dros y misoedd nesaf, dw i eisiau ichi rannu eich barn, eich arbenigedd a'ch syniadau am sut gallwn ni, gyda'n gilydd, droi'r uchelgeisiau yma'n realiti."