Y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r drydedd goedlan goffa
First Minister announces location of Wales’ third commemorative woodland
Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi safle'r drydedd goedlan goffa yng Nghymru yng Nghwmfelinfach yng Nghaerffili.
Mae’r coedlannau coffa’n cael eu creu i gofio am yr holl bobl a fu farw yn ystod y pandemig.
Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i Lywodraeth Cymru nodi dwy flynedd ers cyfnod clo cyntaf y pandemig yn 2020.
Mae'r safle yn eiddo i Gyngor Caerffili a hwn fydd trydydd lleoliad y goedlan goffa, gyda safle arall ar Ystâd Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam, a safle a ddewiswyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn Brownhill yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.
Bydd y coedlannau coffa hyn yn symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig, ac yn symbol o adfywio ac adnewyddu wrth i’r coedlannau newydd dyfu.
Y gobaith yw y byddant yn rhywle y gall teuluoedd a ffrindiau gofio am eu hanwyliaid a fu farw.
Bydd y coedlannau hefyd yn rhywle i’r cyhoedd adlewyrchu am y pandemig a’r effaith y mae wedi’i chael ar ein bywydau.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Rydyn ni i gyd wedi byw ein bywydau yng nghysgod y pandemig ers dwy flynnedd.
Mae’r pandemig wedi cael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau ac mae nifer ohonon ni wedi aberthu llawer.
“Mae gormod o bobl wedi colli aelodau o’r teulu, anwyliaid neu ffrindiau.
“Bydd y coedlannau hyn yn fannau coffa byw a pharhaol er cof am bawb sydd wedi marw. Byddan nhw hefyd yn symbol o’r cryfder y mae pobl Cymru wedi’i ddangos dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”
Caiff ffilmiau byr eu dangos ar-lein hefyd o gerdd a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Ifor ap Glyn ar gyfer y Digwyddiad Coffa Cenedlaethol a gynhaliwyd y llynedd, i nodi 12 mis ers dechrau'r pandemig.
Ysgrifennwyd Dod at ein coed yn Gymraeg, neu Tree sensibility yn Saesneg, mewn ymateb i'r cyhoeddiad i blannu coedlannau fel mannau i gofio am y bobl hynny a gollwyd yn ystod y pandemig.
Mae'r Prif Weinidog, Ifor ap Glyn, staff y GIG, gweithwyr hanfodol, gwirfoddolwyr a theuluoedd y rhai a fu farw yn ystod y pandemig, yn cymryd rhan wrth adrodd y gerdd.
Mae'r ffilmiau – un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg – ar gael i'w gwylio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.