English icon English
school children-5

7 ffordd i leddfu pryderon am ddychwelyd i’r ysgol

7 ways to ease back-to-school worries

Wrth i deuluoedd baratoi ar gyfer dechrau tymor ysgol newydd, bydd llawer yn poeni am yr argyfwng costau byw.

Ond mae cymorth ar gael i ddysgwyr a'u teuluoedd yng Nghymru sydd efallai’n ei chael hi'n anodd fforddio costau ysgol fel gwisg ysgol, prydau bwyd a chludiant, yn ogystal â rhai cynlluniau am ddim hefyd, i helpu'ch plentyn gyda'i ddysgu.

7 cynllun efallai y bydd teuluoedd  yn gymwys ar eu cyfer:

Grant Hanfodion Ysgol

Gall plant ysgol (o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11) sydd ar hyn o bryd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, wneud cais am grant tuag at wisg ysgol, a dillad ac offer ar gyfer chwaraeon.

Mae’r grant yn £125 fesul plentyn, gyda dysgwyr sy'n dechrau ym mlwyddyn 7 yn gymwys i gael £200 i helpu gyda’r costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd.

Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael y grant, p'un a ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim ai peidio.

Mae cynllun 2023 i 2024 bellach ar agor.

Prydau ysgol am ddim

Mae prydau ysgol am ddim i bawb yn cael eu cyflwyno ledled Cymru ar hyn o bryd, gan ddechrau gyda'r dysgwyr ieuengaf yn ein hysgolion cynradd. Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, bydd pob disgybl ysgol gynradd yn cael pryd ysgol am ddim erbyn mis Medi 2024.

Efallai y bydd plant yn yr ysgol uwchradd yn gallu cael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu ofalwyr yn cael budd-daliadau fel Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Credyd Treth Plant neu Lwfans Ceisio Gwaith.

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynd i’r ysgol yn llawn amser. Mae hyn yn cynnwys disgyblion chweched dosbarth.

Mae angen i deuluoedd wneud cais am brydau ysgol am ddim, felly mae'n bwysig gwirio cymhwysedd.

Efallai y bydd gan blant hawl i gael brecwast am ddim yn yr ysgol gynradd, os yw'r ysgol y maent yn mynd iddi yn cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol ac os yw'n darparu brecwast am ddim.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Mae’n bosibl bod pobl ifanc 16 i 18 oed sy’n dymuno parhau â’u haddysg yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Taliad wythnosol o £40 yw hwn i helpu gyda chostau addysg bellach, fel cludiant neu brydau bwyd.

Gwneir taliadau bob pythefnos a gallant fod ar gyfer cyrsiau academaidd neu alwedigaethol.

Mae gan Cyllid Myfyrwyr Cymru  ragor o wybodaeth am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a sut i wneud cais.

Help gyda chostau teithio

Gall myfyrwyr addysg bellach sy'n astudio naill ai yn eu hysgol neu goleg lleol, gael help gyda chostau teithio.

Gwersi Cymraeg am ddim

Mae gwersi Cymraeg am ddim ar gael i bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n mynd i ysgol, coleg neu gynllun prentisiaeth, er mwyn gwella eu sgiliau yn y Gymraeg.

Mae'n rhan o'r cynlluniau yng Nghytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i roi mynediad i bobl ifanc 16-25 oed, yn ogystal â'r holl staff addysgu, i wersi Cymraeg am ddim gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cyrsiau ar-lein a rhai wyneb yn wyneb ar gael, yn ogystal ag adnoddau digidol ar gyfer astudio ar eich pen eich hun, fel rhan o becyn eang o hyfforddiant i bobl ifanc 16 i 18 oed, p'un a ydynt mewn addysg ai peidio.

Gall y rhai a fydd yn gymwys i gael mynediad at y cyrsiau gael mwy o wybodaeth oddi wrth eu hysgol, coleg neu ddarparwr cynllun prentisiaeth, neu drwy'r porth i bobl ifanc ar wefan y Ganolfan Genedlaethol.

Trwyddedau Office 365 am ddim

Gwefan yw Hwb gyda llawer o apiau a meddalwedd am ddim sy'n helpu disgyblion i ddysgu. Mae gan bob athro a dysgwr gyfrif Hwb sy'n rhoi mynediad iddynt at adnoddau addysgol ac offer digidol.

Un o nodweddion cyfrifon Hwb yw trwydded Microsoft Office 365 awtomatig am ddim, sy'n caniatáu i ddisgyblion gyrchu a gosod yr offer Microsoft Office diweddaraf gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint yn ogystal â Minecraft: Education Edition.

Gellir defnyddio'r drwydded am ddim ar draws hyd at 15 o ddyfeisiau cartref gan gynnwys tabledi a ffonau clyfar yn ogystal â chyfrifiaduron bwrdd gwaith a gliniaduron.

Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn

Mae'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn yn darparu cymorth ariannol i ddysgwyr cymwys mewn colegau Addysg Bellach. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer costau gofal plant, cludiant, prydau, offer cwrs, deunyddiau dysgu a theithiau maes.

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cynnydd o 6.5% i'r gronfa ar gyfer 2023/24, er mwyn helpu i leddfu rhai o'r problemau sy'n wynebu dysgwyr agored i niwed yn yr argyfwng costau byw. 

Gall y rhai fyddai’n hoffi gwneud cais am gymorth gael rhagor o wybodaeth gan eu coleg.