Achos cyntaf clefyd coed Phytophthora pluvialis wedi ei ganfod yng Nghymru
First case of tree disease Phytophthora pluvialis discovered in Wales
Mae pathogen tebyg i ffwng sy'n effeithio ar amrywiol rywogaethau coed wedi'i ddarganfod ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru yng Nghoedwig Dyfi, Gwynedd.
Gall Phytophthora pluvialis effeithio ar amrywiol rywogaethau coed, gan gynnwys hemlog y gorllewin, ffynidwydden Douglas a sawl rhywogaeth pinwydd.
Cofnodir ei fod yn achosi colli nodwyddau - lle mae nodwyddau'n troi'n frown ac yn syrthio i ffwrdd – yn ogystal â lladd egin a marciau ar y coesyn, y canghennau a’r gwreiddiau.
Roedd eisoes wedi'i ddarganfod yn rhannau o Loegr a'r Alban ond dyma'r achos cyntaf i’w gadarnhau yng Nghymru.
Gan nad yw'r clefyd erioed wedi'i ganfod yn Ewrop o'r blaen, mae ymchwil yn parhau i ddeall a allai rhywogaethau eraill a allai fod yn agored i niwed gael eu heffeithio.
Bydd hyn yn helpu i lywio pa fesurau rheoli sy'n briodol a'r effaith bosibl y gallai'r pathogen hwn ei chael ar y dirwedd a'r sector coedwigaeth.
Dywedodd y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James: "Byddwn yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner ledled y DU i rannu gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth er mwyn sicrhau dull ar y cyd o fonitro a rheoli'r sefyllfa."
Paratowyd canllaw symptomau a oedd yn rhoi mwy o wybodaeth am Phytophthora pluvialis. Anogir pobl i roi gwybod am arwyddion o’r clefyd drwy borth ar-lein TreeAlert.