English icon English

Adeiladu Cymru wyrddach: Gwaith yn dechrau ar adeiladu datblygiad cyflogaeth carbon isel arloesol gwerth £12 miliwn yn Sir Gaerfyrddin

Building a greener Wales: Construction starts on innovative new £12m low carbon employment development in Carmarthenshire

Mae gwaith wedi dechrau ar adeiladu safle cyflogaeth gynaliadwy gwerth £12 miliwn ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin, a fydd yn darparu mannau masnachol arloesol a modern er mwyn i fusnesau dyfu yn yr ardal leol, mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi cyhoeddi.

Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gâr, yn adeiladu 32,500 troedfedd sgwâr o swyddfeydd, unedau diwydiant ysgafn a mannau hybrid carbon isel i'w gosod mewn tri adeilad.

Gyda Chymorth gan y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, bydd y prosiect yn trawsffurfio'r ffordd mae adeiladau masnachol yn cael eu pweru a'u gwresogi.

Gan ddefnyddio technoleg arloesol ac egwyddorion dylunio Adeiladu Gweithredol, bydd yr adeiladau newydd yn creu trydan drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy ar y safle, a chynnwys lefelau uchel o inswleiddio i ddarparu datblygiad carbon isel gyda chostau rhedeg is.

Y nod yw cyflawni 'safon carbon sero net' a fyddai'n gweld y datblygiad yn cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu anghenion golau a gwres yr adeiladau.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £5.9 miliwn yn y prosiect, gyda chyllid ychwanegol yn cael ei gyfrannu gan Gyngor Sir Gâr a'r Ganolfan Adeiladu Gweithredol. Yn ogystal mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi darparu buddsoddiad o £4.15 miliwn, drwy Lywodraeth Cymru. Y prif gontractiwr ar gyfer y datblygiad yw Andrew Scott Limited.

Mae Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands wedi cael ei gyflawni drwy fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gâr, ac mae'n rhan o raglen fwy o waith seilwaith yn cael ei chyflawni dros ddau gam.

Wrth siarad yn Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, COP27, yn yr Aifft, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gethin:

"Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, fel ein bod yn sicrhau dyfodol gwyrdd gwell ar gyfer ein gwlad.

"Rydyn ni hefyd yn gweithio i wireddu'r diwydiannau gwyrdd perfformiad uchel ar gyfer y dyfodol a fydd yn creu swyddi o ansawdd uchel ar gyfer pobl yn eu cymunedau lleol.

"Mae darparu mannau busnes o'r radd flaenaf yn ganolog i'r weledigaeth honno – ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn mewn ffordd sy'n cyfrannu at ein cynlluniau datgarboneiddio uchelgeisiol. Mae'r datblygiad hwn yn gwneud yn union hynny, drwy ddangos nodweddion carbon isel gwych.

"Gyda chymorth gan y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, rwy'n gobeithio y gall fod yn sbardun ar gyfer rhagor o fannau cyflogaeth carbon isel, ac y bydd yn hybu technolegau newydd ac yn darparu data hanfodol ar y manteision y mae adeiladau carbon isel yn gallu eu darparu."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cyng. Gareth John: 

"Mae'n dda gennyn ni ddarparu'r adeiladau ansawdd uchel hyn, a fydd yn dod â mannau cyflogaeth y mae eu hangen yn fawr iawn i'r ardal.

"Mae'r buddsoddiad hwn gan Gyngor Sir Gâr a Llywodraeth Cymru yn dangos ein hawydd i barhau â’r gwaith o ddatblygu Safle Cyflogaeth Strategol Sir Gaerfyrddin."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, y Cyng. Aled Vaughan Owen:

"Mae'r datblygiad hwn yn dangos yn glir y camau mae'r Cyngor yn eu cymryd i gyflawni ei ymrwymiad carbon sero net 2030.

"Mae'n dda gennyn ni ein bod yn cyflawni prosiect arddangos mor sylweddol, sydd â'r potensial i arwain y ffordd ym maes adeiladau masnachol cynaliadwy iawn. Mae’r dull dylunio adeiladwaith gyntaf ac integreiddio technolegau arloesol i'r adeiladau yn ddulliau y mae'n rhaid i'r sector adeiladu eu mabwysiadu er mwyn chwarae eu rhan yn y gwaith o wrthdroi'r argyfwng hinsawdd."

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu'r Ganolfan Adeiladu Gweithredol:

"A ninnau yn gwmni a sefydlwyd yng Nghymru, rydyn ni'n falch o fod wedi cael y cyfle i weithio ar y prosiect cyffrous hwn. Rydyn ni'n gobeithio y gellir ei ddefnyddio yn fframwaith ar gyfer safleoedd eraill; yn enwedig am ei fod yn dangos yr hyn y gellir ac y dylid ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r her io sicrhau sero net.

"Bydd dylunio strwythurau integredig lle mae systemau ynni yn rhan o'r ateb i ddatgarboneiddio, gyda thechnolegau gweithredol yn cael eu hymgorffori o'r dechrau un, yn golygu nad defnyddio ynni yn unig mae ein hadeiladau, ond byddan nhw hefyd yn chwarae rhan annatod wrth wynebu heriau newid hinsawdd."