English icon English
Vaughan Gething  (L)

Adeiladu dyfodol cryfach ar gyfer sector adeiladu Cymru

Building a stronger future for Welsh construction

Yn ddiweddar, fe  anerchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething uwchgynhadledd adeiladu yng Nghaerdydd a ddaeth ag arweinwyr y sector adeiladu yng Nghymru ynghyd yn ystod cyfnod o bwysau a heriau economaidd.

Gyda thua un o bob 20 o'r holl swyddi yng Nghymru yn y sector adeiladu, roedd yr uwchgynhadledd yn gyfle i arweinwyr drafod y cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru a'r ffordd orau o ysgogi'r cyfleoedd hynny i dyfu'r economi, creu ffyniant a darparu'r sgiliau a'r hyfforddiant angenrheidiol i'r gweithlu mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.

Mae'r uwchgynhadledd hefyd yn nodi dechrau perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru ac Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru a fydd nawr yn rhoi cyngor adeiladu arbenigol i Weinidogion Cymru, deallusrwydd o'r farchnad mewn amser real ac yn datblygu gallu ym maes ymchwil.

Bydd y berthynas newydd yn gwella ansawdd yr ymgysylltiad rhwng y llywodraeth a'r sector ar adeg heriol i'n heconomi.

Wrth annerch yr uwchgynhadledd yng Ngwesty'r Leonardo yng Nghaerdydd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig y mae'r diwydiant adeiladu yn ei chwarae wrth2 gefnogi datblygiad economaidd yng Nghymru a chyfrannu at gysylltiad Cymru â busnesau ledled y byd. 

"Yn ystod y cyfnod heriol hwn, ni fu barn aelodau a diwydiant Cymru erioed yn bwysicach i helpu i gyflawni'r amcanion a nodwyd yn y Genhadaeth Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac edrychwn ymlaen at berthynas waith agosach wrth symud ymlaen.

"Ein nod drwy'r Genhadaeth Economaidd yw gosod Cymru ar lwybr i ddarparu Cymru wyrddach, tecach a mwy llewyrchus.  Rydym am greu amgylchedd economaidd i gefnogi lles y boblogaeth a chynyddu ffocws ar gynhyrchiant a thwf, lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl ac i helpu mwy o bobl ifanc i deimlo'n hyderus wrth gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.

"Un o'n blaenoriaethau yw creu partneriaethau cryfach ar gyfer ein heconomi bob dydd ac edrychaf ymlaen at weithio'n agosach gyda Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru.”

"Mae'r uwchgynhadledd hon yn amserol, mae'n dwyn ynghyd arweinwyr y sector sy'n ymwneud â'r sbectrwm cyfan o weithgarwch a phartneriaethau â'r sector cyhoeddus.

"Rhaid i'r sector barhau i fod yn hyderus ac yn hyfyw wrth symud ymlaen os ydym am weld twf economaidd go iawn yng Nghymru.

"Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhywbeth y gall y llywodraeth ei gyflawni ar ei phen ei hun, mae angen ymgysylltu a chydweithio â'r sector os ydym am gyflawni ein rhaglen ac mae angen trafodaeth onest  i fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau.”

Dywedodd Cat Griffith-Williams, Prif Swyddog Gweithredol, Adeiladu Arbenigedd yng Nghymru: “Mae'r Amgylchedd adeiledu Cymreig yn sector arloesol a diddorol, sy'n ganolog i economi bobdydd Cymru, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i les pob un ohonom. Rwy'n falch iawn fy mod wedi sicrhau contract partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac rwy'n angerddol am weithio gyda rhanddeiliaid y diwydiant, Gweinidogion Llywodraeth Cymru a swyddogion i gynrychioli'r sector adeiladu yng Nghymru. Mae 'r trefniant mwy ffurfiol hwn yn dangos yn glir bwysigrwydd y sector i Genhadaeth Economaidd Cymru. Mae gan Adeiladu Arbenigedd yng Nghymru etifeddiaeth hirsefydlog, ag enw da o ddarparu cyngor adeiladu arbenigol proffesiynol; rydym yn angerddol i gefnogi Gweinidogion Cymru i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar draws y sector adeiladu yng Nghymru, gan gasglu gwybodaeth am y farchnad, mynegi ac ymgysylltu â'r sector adeiladu ehangach yng Nghymru.”