English icon English

Adeiladu momentwm yn y frwydr fyd-eang yn erbyn newid yn yr hinsawdd

Building momentum in the global fight against climate change

"Mae'r wybodaeth a’r arbenigedd helaeth ar draws y taleithiau a'r rhanbarthau hyn yn enfawr ac yn rhoi gobaith i mi allu brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a gosod y llwybr byd-eang i allyriadau sero erbyn 2050."

Dyna eiriau'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ar ôl mynd i gyfarfod gweinidogol Cynghrair Dan2 ym Mrwsel i eirioli dros fwy o gyfranogiad is-genedlaethol mewn prosesau hinsawdd rhyngwladol.

Cynhaliwyd y cyfarfod chwe mis cyn COP 28 yn Dubai, a rhoddodd y cyfarfod gyfle i ranbarthau ddod at ei gilydd i ddangos eu pŵer cyfunol ac i fyfyrio ar ymgysylltiad gwladol a rhanbarthol â phrosesau hinsawdd cenedlaethol, yr UE a rhyngwladol.

Roedd Cymru yn un o sylfaenwyr y rhwydwaith, sydd bellach wedi tyfu i 167 o wladwriaethau unigol, gyda chyfanswm o fwy na 50 y cant o gynnyrch domestig gros byd-eang gyda gwladwriaethau a rhanbarthau o bob cwr o'r byd gan gynnwys California, Quebec, De Awstralia, São Paulo. Gorllewin Bengal a KwaZulu-Natal.

Roedd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar aelodau Ewropeaidd gan gynnwys Cymru, Andalusia, Baden-Württemberg, Gwlad y Basg, Catalonia, Emilia-Romagna, Lombardy, Navarra, Gogledd Rhine-Westphalia, yr Alban a Västra Götaland.

Roedd y digwyddiad ym Mrwsel yn gyfle i drafod cydweithrediad gwladol a rhanbarthol â llywodraethau cenedlaethol a hefyd i ddeall blaenoriaethau hinsawdd  mandad Llywyddiaeth Sbaen o Gyngor yr UE yn y cyfnod cyn COP 28.

Roedd hefyd yn gyfle i nodi partneriaeth newydd y Gynghrair Dan2 gyda Phwyllgor  Rhanbarthau yr UE.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Mae'r gynghrair Dan2 yn dangos pŵer llywodraethau ar bob lefel yn cydweithio i sbarduno gweithredu rhyngwladol.

"Trwy Dan2 gallwn ddangos arweinyddiaeth a chreu'r momentwm sydd ei angen i wneud gwahaniaeth gartref ac yn rhyngwladol yn ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

"Rhoddodd adroddiad diweddaraf yr IPCC neges amlwg i ni am effeithiau newid hinsawdd, fydd yn cael eu teimlo ar lefel leol gan bobl leol. Y bobl yr ydym yn eu cynrychioli.

"Mae angen i ni gynnwys pobl yn y camau y mae angen i ni i gyd eu cymryd gyda'n gilydd, yn y ffordd rydyn ni'n dylunio ein systemau ynni, tyfu ein bwyd, byw yn ein cartrefi, cludo ein nwyddau a'n gwasanaethau a'r busnes rydyn ni'n gweithio ynddo.

"Fel yr amlygwyd gan Gytundeb Hinsawdd Glasgow a Chynllun Gweithredu Sharm el-Sheikh mae angen gweithredu aml-lefel a chydweithredol brys ac mae Gwladwriaethau a Rhanbarthau yn allweddol i hyn i gyd ac yn aml y rhai sydd ar flaen y gad.

Credwn y gall y camau y mae Cymru ac aelodau eraill o'r rhwydweithiau hyn yn eu cymryd greu pwysau i sicrhau newid ar lefel fyd-eang, gan ddangos yr hyn sy'n bosibl.

"Mae'r broses COP ffurfiol yn gyfle i wladwriaethau a rhanbarthau gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu fel actorion hanfodol yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.

"Drwy'r clymbleidiau rhyngwladol rydym yn rhan ohonynt rydym wedi derbyn ysbrydoliaeth ac anogaeth, ac wedi gweld diddordeb gwirioneddol yn y camau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru, i wrthwynebu echdynnu tanwyddau ffosil, newid buddsoddiad mewn seilwaith a mynd ar drywydd adfer ein storfa carbon naturiol. .

"Gyda'i gilydd mae'r wybodaeth a’r arbenigedd helaeth ledled y taleithiau a'r rhanbarthau hyn yn enfawr ac yn rhoi gobaith i mi allu brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a gosod y llwybr byd-eang i allyriadau sero erbyn 2050."