English icon English

Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru

Welsh Government's Road Review

Bydd canlyniadau panel adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Mawrth 14 Chwefror 2023

Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn pennu cyfeiriad dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru yn y Senedd wrth iddo nodi rhai dogfennau allweddol gan gynnwys canfyddiadau'r Panel Adolygu Ffyrdd – grŵp arbenigol annibynnol sydd â'r dasg o asesu mwy na 50 o brosiectau adeiladu ffyrdd – a Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau'n dangos prosiectau a fydd yn datblygu dros y pum mlynedd nesaf a sut fyddwn yn adeiladu ffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.