English icon English

Adroddiad Blynyddol yn tynnu sylw at lwyddiannau polisi mewn “cyfnod eithriadol o anodd”

Annual Report highlights policy achievements “in most difficult of times”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol, a’r ail adroddiad yn nhymor presennol y Senedd.

Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd tuag at gyflawni 10 amcan llesiant Llywodraeth Cymru, sydd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu bresennol.

Mae’n tynnu sylw at yr ystod eang o lwyddiannau dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys darparu gofal iechyd cynaliadwy o safon uchel; economi gryfach a gwyrddach; diwygio addysg; cefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed; dathlu amrywiaeth; parhau â’r nod o gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg; ac ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae rhai o’r ymrwymiadau wedi’u cynnwys yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru. Bydd ail adroddiad blynyddol y Cytundeb Cydweithio’n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rydym yn llwyddo i gyflawni o hyd, a hynny yn ystod cyfnod eithriadol o anodd. Cawsom flwyddyn heriol arall y llynedd, gydag argyfwng yn sgil costau byw a chostau ynni cynyddol, y rhyfel creulon yn Wcráin a mwy o dystiolaeth o'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn adfer o effaith y pandemig bellach a ninnau, diolch i’r drefn, wedi symud y tu hwnt i'r ymateb brys.

“Rydym wedi cyflawni llawer dros y flwyddyn ddiwethaf, ochr yn ochr â darparu cymorth wedi'i dargedu i helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw a chynllun uwch-noddwr sy'n cynnig cymorth cofleidiol i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i bawb yng Nghymru sydd wedi agor ei gartref i bobl o Wcráin, gan roi lloches ddiogel iddynt. Mae hyn yn dangos yn glir ein bod yn Genedl Noddfa go iawn.

“Hyd yn oed pan oedd angen inni wneud penderfyniadau anodd oherwydd y pwysau mawr iawn arnom yn ariannol, mae ein cyllidebau wedi canolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, rhoi cymorth i bobl yn ystod yr argyfwng costau byw a chyflawni ein blaenoriaethau.”