Aelwydydd sy'n cynnig llety i Wcreiniaid yn gweld cynnydd mewn taliadau 'diolch' wrth i Gymru barhau i ddangos ei bod yn Genedl Noddfa
Ukrainian hosts see uplift in ‘thank you’ payments as Wales continues to prove itself as a Nation of Sanctuary
Bron blwyddyn ers i'r cynllun Cartrefi i Wcráin agor, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw (dydd Iau 16 Mawrth) y bydd yn parhau i gefnogi pobl sy'n ffoi o'r rhyfel, ac i helpu'r rhai sydd eisoes yng Nghymru i symud i lety tymor hwy.
Mae dros 6,500 o bobl sydd â noddwr yng Nghymru wedi dianc o ymosodiad ffyrnig Rwsia ar Wcráin yn ystod y flwyddyn diwethaf, gan gynnwys 3,000 drwy gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru. Bu ymateb gwych gan Dîm Cymru i ryfel erchyll a pharhaus.
Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru, a gafodd ei phasio yn y Senedd yr wythnos diwethaf, yn amlinellu buddsoddiadau gwerth £40 miliwn i gefnogi pobl o Wcráin sy'n ymgartrefu yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Un o'r ffyrdd y bydd y £40 miliwn yn cael ei wario yw £2.5 miliwn i alluogi awdurdodau lleol i gynyddu taliadau ‘diolch’ ar gyfer pobl yng Nghymru sy'n lletya gwesteion o Wcráin – i fyny o £350 y mis ar hyn o bryd i £500 y mis.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fod gwneud hyn yn cydnabod “maint eu caredigrwydd”, yn ogystal â'r effaith mae'r argyfwng costau byw digynsail yn ei chael ar letywyr. Rhoddir y taliadau uwch i bob lletywr o fis Ebrill ymlaen, ni waeth pa mor hir mae pobl wedi bod yng Nghymru.
Mae'r 'Tocyn Croeso' sy'n rhoi mynediad fisa i drafnidiaeth gyhoeddus i Wcreiniaid am chwe mis, hefyd yn cael ei estyn i'r flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'n rhywbeth sy'n cael ei groesawu gan letywyr fel Hollie Webster sydd – gyda'i gŵr – yn cynnig llety i westai o Wcráin o'r enw Lydiia, ynghyd â'i dwy gath, yn eu cartref yng Nghaergybi. Dywedodd Hollie:
"Mae fy ngŵr a finnau yn ymwybodol o'r amgylchedd a byddwn yn gwneud pob ymdrech i gadw llygad ar y mesurydd clyfar. Er na welon ni ein biliau'n codi pan gyrhaeddodd Lydiia y llynedd, mae'r argyfwng costau byw bellach yn cael effaith. Felly mae'n wych gwybod bod swm y cymorth a roddir i letywyr fel ni yn codi.
"Bydd y £150 ychwanegol y mis yn ein helpu i liniaru'r costau uwch hynny, ac yn rhoi rhwyd ddiogelwch gyfforddus inni fel y gallwn ni helpu Lydiia am gyhyd ag y mae hi eisiau aros gyda ni."
Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn canolbwyntio ar helpu gwesteion o Wcráin i symud i lety tymor hwy, ac mae bron 1,000 o bobl a ddaeth i aros gydag uwch-noddwr eisoes wedi ymgartrefu yng Nghymru, gyda dros 500 yn dod o hyd i lety amgen yn rhannau eraill y DU. Fodd bynnag, bydd cymorth ar gyfer pobl sy'n aros yn eu llety cychwynnol yn parhau, a bydd eu costau cofleidiol yn cael eu talu.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
"Mae pobl o bob cwr o Gymru wedi cynnig helpu, ac wedi dangos trugaredd gwirioneddol ac wedi bod ar gael i helpu teuluoedd y bu rhaid iddynt adael eu cartrefu.
"Rwyf mor falch o'r noddfa rydyn ni'n ei darparu, ac mae llawer o'n gwesteion wedi dweud wrthon ni pa mor ddiolchgar ydyn nhw am y cymorth mae Cymru wedi'i gynnig.
"Nawr, wrth i ryfel Putin barhau, yn anffodus, rhaid inni sicrhau bod ein gwesteion yn gallu dod o hyd i lety tymor hwy. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith o symud ein gwesteion ymlaen o'n llety cychwynnol yn raddol.
"Er bod Llywodraeth y DU wedi dewis torri'r cyllid hanfodol sydd ei angen ar awdurdodau lleol i lefelau sy'n is o lawer na'r lefel y gellir eu rheoli, rydym yn benderfynol o gefnogi cynghorau i helpu pawb yng Nghymru y mae angen cartref arnynt."
Bydd y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro gwerth £89 miliwn, a gyhoeddwyd y llynedd, yn cynyddu llety tymor hwy o ansawdd uchel i helpu pawb yng Nghymru y mae angen cartref arnynt. Byddwn yn gweld dros 1,300 o gartrefi ychwanegol yn cael eu darparu yn ystod y 18 mis nesaf.
Bydd cymorth ariannol gwerth £2 miliwn hefyd yn cael ei ddarparu i helpu pobl i symud ymlaen, gan roi cymorth i awdurdodau lleol i helpu Wcreiniaid i ddod o hyd i lety tymor hwy, ac i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer achosion mwy cymhleth. Rhoddir hyblygrwydd i gynghorau ynghylch sut i ddefnyddio'r arian fesul achos, gan mai nhw sy'n gwybod yr anghenion lleol orau.
Mae hyn yn ychwanegol at yr ychydig o dan £2 miliwn a fydd ar gael ar ffurf cronfa ar gyfer cynghorau i liniaru pwysau lleol fel addysg, gwersi iaith a rhaglenni cyflogadwyedd yn ôl eu disgresiwn, i greu rhagor o annibyniaeth bersonol ac i helpu pobl i ailymgartrefu.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Rydyn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a phartneriaid i gynyddu capasiti ar gyfer opsiynau llety ansawdd uchel, gan gynnwys helpu rhagor o bobl i gynnig llety.
"Bydd y rhai sy'n ceisio diogelwch yn parhau i gael croeso cynhwysol yma."