Agenda werdd Cymru: Y Prif Weinidog yn cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru
Wales’ green agenda: First Minister announces Welsh Government’s legislative programme
Gweithredu ar newid hinsawdd yw ffocws clir Llywodraeth Cymru wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi Biliau newydd i gael eu cyflwyno yng Nghymru yn y flwyddyn nesaf.
Roedd y Prif Weinidog yn annerch y Senedd wrth i'r llywodraeth gwblhau ei blwyddyn gyntaf, a welodd gyflwyno pedwar Mesur, gan gynnwys y Mesur Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus unigryw, a fydd yn sicrhau hawliau teg gweithwyr ac yn arwain at gaffael cyhoeddus sy'n fwy cyfrifol yn gymdeithasol.
Bydd pob un o’r pum Bil sydd i’w cyflwyno yn ail flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi’r amgylchedd.
Dyma’r Biliau:
- Bil ar Blastigau Untro a fydd yn gwahardd neu’n cyfyngu ar werthu eitemau sy’n cael eu taflu fel sbwriel yn aml, fel gwellt a chytleri plastig
- Bil Aer Glân i gyflwyno targedau a rheoliadau uchelgeisiol i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer
- Bil Amaeth i ddiwygio cymorth i amaethyddiaeth Cymru, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy a gwobrwyo ffermwyr sy’n cymryd camau i ddiogelu’r amgylchedd
- Bil ar Gydsynio Seilwaith i symleiddio’r broses o gytuno ar brosiectau seilwaith mawr, gan roi mwy o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr
- Bil ar Ddiogelwch Tomenni Glo i wella’r rheolaeth ar domenni glo nas defnyddir, gan ddiogelu cymunedau sy’n byw yng nghysgod y tomenni hyn, wrth i’r risg o niwed sy’n gysylltiedig â’r tywydd gynyddu iddynt
Dywedodd y Prif Weinidog: “Rwy’n falch o gyflwyno’r rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol hon gyda ffocws clir ar ddyfodol cryfach, tecach a gwyrddach Cymru.
“Mae’r argyfwng hinsawdd, heb os, gyda ni. Byddwn yn cyflwyno pum Bil pwysig, a fydd yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd, gwella ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu ac atal cymaint o blastig rhag llygru ein tiroedd a’n moroedd hardd.”
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn edrych i’r dyfodol, gan nodi bwriad y Llywodraeth i gyflwyno nifer o Filiau diwygio pwysig, a fydd yn cael eu cyflwyno o drydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol ymlaen.
Bydd y Biliau hyn yn cynnwys:
Bydd Bil Diwygio’r Senedd yn cael ei gyflwyno’n gynnar yn y drydedd flwyddyn, gan fwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, i greu Senedd fodern, gyda mwy o allu i graffu ar Lywodraeth Cymru, deddfwriaeth a chynrychioli pobl ledled Cymru.
Bydd Bil Bysiau yn cael ei gyflwyno i alluogi pob lefel o lywodraeth yng Nghymru i gydweithio i ddylunio rhwydweithiau bysiau sy’n gwasanaethu cymunedau’n briodol ac sy’n helpu pobl i symud oddi wrth ddefnyddio eu ceir ar gyfer pob taith.
Bydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno Bil ar Gyllid Llywodraeth Leol tua diwedd 2023 i ddiwygio’r ffordd mae pobl yn talu’r dreth gyngor yng Nghymru.
Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Mae gennym agenda ddeddfwriaethol lawn o’n blaenau wrth inni osod y sylfeini tuag at y Gymru yr ydym am ei gweld.
“Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn parhau i weithio ar draws y Siambr i sicrhau bod ein deddfwriaeth y gorau y gall fod a’i bod yn gwella bywydau pobl Cymru gyfan.”