Agor ymgynghoriad ar system dribiwnlysoedd newydd i Gymru
Consultation opens on new Welsh tribunal system
Mae ymgynghoriad wedi agor heddiw ar ddiwygiadau sydd â’r nod o uno a moderneiddio tribiwnlysoedd datganoledig Cymru.
Dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, y bydd y newidiadau'n gwella mynediad at gyfiawnder ac yn gosod y sylfaen ar gyfer system gyfiawnder ddatganoledig yng Nghymru.
Bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i greu system unedig, fodern sy’n annibynnol yn strwythurol. Caiff ei chynllunio i ymgorffori awdurdodaethau’r tribiwnlysoedd datganoledig presennol, yn ogystal ag i ysgwyddo swyddogaethau pellach dros amser.
Mae'r prif gynigion yn cynnwys:
- creu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac iddo strwythur siambrau;
- creu Tribiwnlys Apêl Cymru, y corff apeliadol Cymreig cyntaf yn hanes y gyfraith;
- dyletswyddau statudol i gynnal annibyniaeth y system dribiwnlysoedd newydd;
- mwy o annibyniaeth o ran y ffordd y gweinyddir y system gan gorff hyd braich newydd;
- dulliau symlach a chydlynol o benodi aelodau tribiwnlysoedd ac o ymdrin â chwynion ar draws y system dribiwnlysoedd newydd;
- ffyrdd clir ac effeithlon o wneud rheolau tribiwnlysoedd a'u diweddaru.
Mae'r ymgynghoriad yn datblygu ac yn adeiladu ar argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, yn ogystal â phrosiect Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru.
Mae’n agored tan 2 Hydref a bydd yr ymatebion yn llywio’r ddeddfwriaeth a fydd yn cyflwyno’r diwygiadau.
Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:
"Mae gennym ddau brif amcan wrth ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru.
"Yn gyntaf, rydym am greu system dribiwnlysoedd fodern sy'n canolbwyntio ar fynediad at gyfiawnder, a fydd yn golygu bod pobl yn hyderus y bydd eu hanghydfodau yn cael eu trin yn gyfiawn, yn effeithlon ac yn gyflym. Mae'r fframwaith deddfwriaethol sy'n sail i dribiwnlysoedd wedi dyddio bellach, felly bydd y diwygiadau hyn yn arwain at system gliriach, symlach a mwy cydlynol i bawb dan sylw.
"Yn ail, mae'r diwygiadau'n parhau i osod y sylfaen ar gyfer dyfodol lle mae cyfiawnder wedi'i ddatganoli, a Chymru'n gweinyddu ei system ehangach ei hun o lysoedd a thribiwnlysoedd. Rydym yn dal i gredu mai dyna'r ffordd orau o sicrhau gwell canlyniadau i bobl Cymru.
"Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ymateb i'r ymgynghoriad a chyfrannu at y gwaith pwysig hwn."
Dywedodd Syr Gary Hickinbottom, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru:
"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru’n cyflwyno cynigion i ddiwygio Tribiwnlysoedd Cymru. Mae hyn yn gyfle gwych i roi strwythur ar waith ar gyfer ein tribiwnlysoedd presennol a fydd yn ein galluogi i ddarparu gwell gwasanaeth i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd ac i osod y sylfaen ar gyfer datblygu mewn ffordd hyblyg a chydlynol yn y dyfodol.”