English icon English
Eluned Morgan (P)#6

Ailbenodi 15 aelod i Gynghorau Iechyd Cymuned ledled Cymru

Fifteen Community Health Council members re-appointed to roles across Wales

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd wedi ailbenodi 15 aelod i Gynghorau Iechyd Cymuned ledled Cymru.

Bydd yr aelodau yn cynrychioli Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan, Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg, Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe a Chyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg.

O fis Ebrill 2023, bydd corff newydd sef Corff Llais y Dinesydd yn cymryd lle’r Cynghorau Iechyd Cymuned. Bydd Corff Llais y Dinesydd yn parhau i gynrychioli llais cleifion o ran eu gofal iechyd yn ogystal â gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae pob Cyngor Iechyd Cymuned yn cwmpasu ardal ddaearyddol benodol yng Nghymru, sy’n cyd-fynd â’r bwrdd iechyd lleol sy’n gyfrifol am ddylunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn yr ardal honno.

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn gyfrifol am ymweld â gwasanaethau iechyd lleol a’u craffu yn rheolaidd, a chan weithio gyda’u byrddau iechyd perthnasol, maent yn gyfrifol am feithrin cysylltiadau gyda’u cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli’n addas.

Mae aelodau yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd wrth gynllunio newidiadau i wasanaethau’r GIG a chytuno arnynt. Maent hefyd yn gyfrifol am alluogi cleifion a’r cyhoedd i rannu pryderon ynghylch y gwasanaethau maent yn eu cael drwy wasanaeth Eiriolaeth Annibynnol ar gyfer Cwynion.

Ni fydd yr aelodau yn cael eu talu am eu gwaith, ond byddant yn gallu hawlio lwfansau teithio a chynhaliaeth wrth iddynt ymgymryd â gwaith sy’n berthnasol i’w swyddi.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd: “Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn chwarae rôl allweddol o ran meithrin cysylltiadau â’u cymunedau a sicrhau bod gan bobl lais.

“Er mwyn rhoi’r profiadau gorau o wasanaethau’r GIG i bobl yng Nghymru, mae angen inni gydweithio er mwyn sicrhau ein bod yn gwrando ar gymunedau, a’n bod yn gallu dysgu ynghylch arferion gorau.”

Mae’r aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned canlynol wedi’u hailbenodi:

Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg

Brenda Chamberlain

Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

Gill Williams

Celia Hayward

Joy Baker

Michael Lloyd Jones

Arron Taylor-Osbourne

Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda

Pauline Griffiths

Gwenda Williams

Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan

Cheryl Christoffersen

Patricia Cory

Barbara Norvill

Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg

Diane Rogers

Stephen Carter

Ramsey Jamil

Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe

Hugh Pattrick

 

Nodiadau i olygyddion

Mae Mr Pattrick wedi datgan ei fod yn Gynghorydd Cymuned i Gyngor Cymuned Ystradfellte, yn aelod annibynnol o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Powys, ac yn aelod o’r Blaid Lafur.