English icon English
Jeremy Miles-46

Amseroedd aros hiraf am driniaeth y GIG yn gostwng dwy ran o dair mewn pedwar mis

Longest waits for NHS treatment fall by two-thirds in four months

Mae amseroedd aros hir am driniaethau yng Nghymru wedi gostwng dwy ran o dair yn ystod y pedwar mis diwethaf.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod amseroedd aros o fwy na dwy flynedd wedi gostwng i ychydig o dan 8,400 erbyn diwedd mis Mawrth 2025 – y lefel isaf ers mis Ebrill 2021.

Mae miloedd yn fwy o driniaethau a phrofion wedi’u darparu ar draws GIG Cymru o ganlyniad i gynnig apwyntiadau gyda’r nos ac ar benwythnosau, gwaith rhanbarthol rhwng byrddau iechyd ac ymdrechion o’r newydd i wella mynediad at ofal a gynlluniwyd.

Mae maint cyffredinol y rhestr aros wedi gostwng hefyd am y pedwerydd mis yn olynol ac roedd gostyngiadau hefyd mewn amseroedd aros hir ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a thriniaethau diagnostig ym mis Mawrth 2025.

Buddsoddodd yr Ysgrifennydd Iechyd £50m yng nghynlluniau'r byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf am driniaeth, i gynyddu mynediad at brofion diagnostig ac apwyntiadau cleifion allanol ac i dorri amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol plant ym mis Tachwedd 2024.

Mae gwybodaeth reoli yn dangos bod y cyllid ychwanegol wedi darparu:

  • 5,143 o driniaethau ychwanegol yn ogystal â gweithgarwch craidd y GIG
  • 2,160 o brofion diagnostig ychwanegol yn ogystal â gweithgarwch craidd y GIG
  • 6,084 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol yn ogystal â gweithgarwch craidd y GIG
  • 2,166 o asesiadau niwroddatblygiadol ychwanegol yn ogystal â gweithgarwch craidd y GIG, gan ddileu rhestrau aros tair blynedd

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: “Mae ffigurau perfformiad diweddaraf y GIG yn dangos bod amseroedd aros hir bellach ar eu lefelau isaf ers mis Ebrill 2021 a bod maint cyffredinol y rhestr aros wedi gostwng am bedwar mis yn olynol.

“Mae ychydig yn llai nag 8,400 o bobl bellach yn aros dros ddwy flynedd.

"Yn arbennig, hoffwn ganmol byrddau iechyd prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda, sydd wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Powys fel byrddau sydd heb unrhyw gleifion yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol neu ddwy flynedd am driniaeth.”

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos hefyd y perfformiad gorau yn erbyn y targed canser o 62 diwrnod ers mis Awst 2021, sef 63.5%.

Mae'r pwysau ar y gwasanaethau brys yn parhau ond mae perfformiad yn erbyn y targed o bedair awr a 12 awr ar gyfer adrannau achosion brys wedi gwella ym mis Ebrill 2025, o'i gymharu â'r mis blaenorol. Ac ymatebwyd i fwy na hanner y galwadau 999 ‘coch’ lle'r oedd bywyd yn y fantol i Wasanaeth Ambiwlans Cymru o fewn yr amser targed o wyth munud.

Ychwanegodd Mr Miles: “Ein ffocws nawr yw cefnogi'r GIG i barhau i ddileu'r holl amseroedd aros dwy flynedd; i leihau 200,000 ar y rhestr aros gyffredinol yn ystod y flwyddyn hon ac i adfer yr amser aros uchaf o wyth wythnos ar gyfer profion diagnostig erbyn mis Mawrth 2026.

“Mae hwn yn nod uchelgeisiol a bydd angen i bawb yn y gwasanaeth iechyd weithio'n galed dros y flwyddyn i ddod, ond rwy'n hyderus y gallwn gyflawni hyn gyda'n gilydd.

“Hoffwn ddiolch i staff y GIG am eu gwaith caled i’n helpu i gyrraedd y sefyllfa hon.

“Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wella mynediad amserol at ofal i bobl ledled Cymru.”