English icon English
pexels-gustavo-fring-5621860-2

Annog rhieni i fynd â’u plant am brawf llygaid yr haf hwn

Parents encouraged to get their children's eyes tested this summer.

Mae ymgyrch newydd yn annog rhieni i fynd â’u plant at eu hoptegwyr lleol am brawf llygaid yr haf hwn.

Mae ymgyrch optometreg Helpwch Ni i’ch Helpu Chi wedi’i sefydlu i helpu pawb yng Nghymru, a phlant yn benodol, i brofi’u llygaid a hynny er mwyn helpu i atal problemau yn y dyfodol.

Mae ymchwil yn dangos bod gan oddeutu 20% o blant oed ysgol broblem gyda’i golwg sydd heb ei chanfod. Gall archwiliad iechyd llygaid rheolaidd, i blant ac oedolion, helpu i atal neu ganfod ystod o broblemau â’r llygaid yn gynt, megis glawcoma, diabetes a myopia.

Arbenigwyr llygaid yw optometryddion sy’n gallu profi golwg plant a rhoi diagnosis ar gyfer ystod o broblemau a chyflyrau llygaid yn ddigon buan er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn llwyddiannus. Bydd y GIG yn rhoi sbectol i blant sydd angen un yn rhad ac am ddim er mwyn eu helpu gyda’u golwg a’u triniaeth gofal llygaid.

Gyda’r galw am wasanaethau gofal llygaid ar gynnydd, mae Llywodraeth Cymru yn newid sut y mae gofal llygaid yn cael ei ddarparu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys contract optometreg newydd a fydd yn galluogi optometryddion y stryd fawr i reoli, monitro a thrin mwy o gyflyrau llygaid. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu cael gofal a thriniaethau llygaid yn rhad ac am ddim, yn gynt ac yn agosach i’w cartrefi. Bydd hyn hefyd yn helpu i wella canlyniadau a lleihau rhywfaint o’r pwysau ar feddygfeydd ac ysbytai.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rydyn ni’n argymell bod pawb yn mynd at eu hoptegwyr lleol am archwiliad iechyd llygaid ataliol yn rheolaidd. Gorau oll yr ieuengaf ydych chi pan fyddwch chi’n dechrau mynd am brofion llygaid a dyna pam fy mod yn annog pob rhiant a gofalwr i fynd â’u plant am brawf llygaid yr haf hwn a chyn y flwyddyn ysgol newydd. Mae optometryddion yn arbenigwyr mewn iechyd llygaid. 

“Rydyn ni’n bwriadu trawsnewid sut y mae optometreg yn cael ei darparu yng Nghymru, gan gefnogi gwasanaethau llygaid mewn ysbytai drwy bractisau optometreg lleol ar y stryd fawr fel y gall pobl gael gofal llygaid o ansawdd uchel yn eu cymunedau. Drwy newid sut y mae optegwyr yn cael eu cyllido, gall optometryddion flaenoriaethu iechyd a gofal llygaid clinigol.”

Dywedodd David O’Sullivan, Prif Gynghorydd Optometrig Cymru:

“Mae golwg da yn hanfodol er mwyn sicrhau bod plentyn yn datblygu i’w botensial llawn. Mae llygaid yn dal i ddatblygu drwy gydol y blynyddooedd cynnar felly os bydd problemau yn cael eu trin yn gynnar, gall hyn wneud gwahaniaeth parhaol. Nid yw byth yn rhy gynnar i gael prawf golwg gyda’ch optometrydd lleol.

“Dim ond 28% o blant sy’n mynd at eu hoptometrydd ar y stryd fawr am brofion llygaid yn rheolaidd. Mae’n bosibl felly fod gan nifer sylweddol o blant broblemau gyda’u golwg y gellid eu gwella. Profion llygaid yn rhad ac am ddim gan optegydd lleol yw’r ffordd orau i rieni sicrhau bod llygaid eu plant yn cael eu profi. Rwy’n annog pawb i fynd am brofion llygaid yn rheolaidd.”

 DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

Interviews available on request. Please contact hss-pressteam@gov.wales to arrange.