Arfor 2: Cyhoeddi cynlluniau arloesol i helpu creu swyddi, cefnogi'r economi a chryfhau'r Gymraeg
Arfor 2: Innovative schemes to help create jobs, support the economy and strengthen the Welsh language unveiled
Mae cyfres o ymyriadau i gefnogi cymunedau Cymraeg i ffynnu yn economaidd fel rhan o raglen 3 blynedd ARFOR Llywodraeth Cymru gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael ei datgelu gan Weinidog yr Economi Vaughan Gething a Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd heddiw.
Mae ARFOR yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Plaid Cymru. Mae'n adeiladu ar brofiad a gwerthusiad y rhaglen ARFOR gynharach a lansiwyd yn 2019.
Mewn digwyddiad lansio gydag Arweinwyr Cynghorau Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, amlinellodd Gweinidog yr Economi a’r Aelod Dynodedig y rhaglen a fydd yn cael ei chyflwyno gan yr awdurdodau lleol gyda’r nod o gryfhau cadernid economaidd cadarnleoedd Cymraeg – a chreu swyddi i gefnogi'r iaith.
Mae cyllid Llywodraeth Cymru, sydd ar gael i bedwar awdurdod lleol Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, yn cefnogi nifer o ymyriadau strategol, gan gynnwys pwyslais ar gyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd, i'w galluogi i aros yn eu cymunedau cartref neu ddychwelyd iddynt.
Wrth lansio'r rhaglen, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Gallai ARFOR 2 wneud gwahaniaeth sylweddol yn ein cadarnleoedd Cymraeg, trwy fwrw ymlaen â'n huchelgais o ledaenu ffyniant economaidd ledled Cymru.
"Trwy weithio gyda'n hawdurdod lleol partner, rydym am gefnogi cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol."
Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Cefin Campbell:
"ARFOR yn rhaglen gyffrous i gefnogi a thyfu'r economi leol a'r Gymraeg gyda'i gilydd. Trwy fuddsoddi yn y meysydd hyn, byddwn yn annog ac yn galluogi entrepreneuriaeth ac yn helpu busnesau i dyfu. Bydd hyn yn cefnogi cymunedau bywiog a ffyniannus. Mae'n wych cael bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol i dynnu sylw at y rhaglenni a gefnogir gan ARFOR, prosiect allweddol sydd wedi'i alluogi gan y Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru."
Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog â Siop Griffiths, sef menter gymunedol ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle a dderbyniodd arian gan ARFOR 1 ac sydd wedi helpu i greu atebion lleol i'r heriau sy'n wynebu Dyffryn Nantlle ac i roi cyfleoedd i bobl ifanc aros a ffynnu yn eu cymuned. Enillodd y fenter Wobr Dewi Sant yn 2022 am Ysbryd Cymunedol.
"Mae'r gefnogaeth gan Raglen ARFOR wedi helpu Siop Griffiths i greu swydd newydd - Rheolwr Gwasanaethau - ac mae'n ein helpu i gryfhau ein gwasanaethau a chynyddu ein hincwm," meddai Ben Gregory, Ysgrifennydd Siop Griffiths Cyf.
"Yn y tymor hir rydym yn anelu at gynyddu nifer y swyddi a'r gwasanaethau sydd oll yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cael eu cynnig i'r cyhoedd yn ddwyieithog. Mae Rhaglen ARFOR hefyd yn ein helpu i gysylltu â mentrau cymdeithasol o'r un anian, lle gallwn ddysgu ar y cyd am y ffordd orau o gefnogi a chryfhau'r defnydd o'r Gymraeg."
Mae pum ffrwd waith fel rhan o raglen ARFOR - sef:
- Llwyddo'n Lleol 2050 - Cynllun i bobl ifanc a theuluoedd ifanc dan 35 oed gael cyfleoedd gwaith a phrofiadau a all annog pobl i aros yn eu cymunedau brodorol neu ddychwelyd iddynt. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr i fod yn rhan o'r cynllun. Gweinyddir y gefnogaeth hon gan Menter Môn mewn partneriaeth â Menter a Busnes. Bydd £3m yn cael ei fuddsoddi i weithredu'r prosiect. Mae mwy o fanylion ar gael yma.
- Cymunedau Mentrus - cronfa sy'n cynnig cymorth i fentrau preifat / cymunedol / cymdeithasol i ddatblygu gwasanaethau / cynhyrchion newydd o fewn cymunedau gyda'r bwriad o ddatblygu'r economi leol a chynyddu gwelededd y Gymraeg. Am fwy o fanylion ewch i rhaglenarfor.cymru
- Cronfa Her - pecyn o gymorth i gwrdd â heriau lleol a rhanbarthol Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Bydd unigolion sydd â syniadau arloesol i gwrdd â heriau economaidd Rhanbarth ARFOR yn cael cyfle i wneud cais am gymorth ariannol. Bydd £2.6m yn cael ei fuddsoddi i weithredu'r prosiect a fydd yn cael ei gyflawni gan Menter Môn mewn partneriaeth â Menter a Busnes
- Monitro, Gwerthuso a Dysgu - Penodwyd Wavehill i fonitro a gwerthuso Rhaglen ARFOR, gan nodi'r hyn rydym wedi'i ddysgu o'r cysylltiad rhwng yr economi leol a'r Gymraeg. Mae'r gwaith hwn yn ei gamau cynnar ond i wybod mwy, ewch i rhaglenarfor.cymru
- Mae Bwrlwm ARFOR yn ymwneud â sut mae busnesau'n defnyddio'r Gymraeg a'r budd o wneud hynny. Mae'r tendr ar gyfer y gwaith hwn bellach yn fyw. Am fwy o wybodaeth, ewch i rhaglenarfor.cymru. Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau ar 14 Awst.
Yn dilyn y lansiad, bydd trafodaeth banel dan gadeiryddiaeth Llŷr Roberts, Menter a Busnes a chyfle i wrando ar banel profiadol yn trafod heriau lleol a rhanbarthol a sut y gall y Rhaglen ARFOR gefnogi rhai o'r heriau hyn. Bydd y panel yn cynnwys y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd; Lowri Gwilym, CLlLC; Endaf Griffiths o gwmni Wavehill a Dr Elin Hâf Gruffudd Jones, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Nodiadau i olygyddion
Eglura Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:
"Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i barhau i reoli Llwyddo'n Lleol ac ymestyn hynny i weddill siroedd Rhaglen ARFOR. Mae ein negeseuon gwreiddiol am gyfleoedd gwaith ac ansawdd bywyd yn siroedd y gorllewin, yr un mor berthnasol os nad yn fwy felly heddiw. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Menter a Busnes ac arwain pecynnau gwaith newydd i hyrwyddo ac annog pobl ifanc a theuluoedd i ystyried dyfodol yn eu milltir sgwâr."
Dywedodd Llŷr Roberts yw Prif Weithredwr Menter a Busnes:
"Rydym yn gwybod bod colli pobl ifanc a theuluoedd ifanc yn tanseilio hygrededd cymunedau gwledig ac yn cael effaith ar wasanaethau lleol. Rydym felly yn falch iawn o allu chwarae rhan wrth fynd i'r afael â'r her hon a chydweithio â'n partneriaid ym Menter Môn i ddatblygu a pheilota syniadau a all gyfrannu at ddenu a chadw pobl ifanc yn eu cymunedau. Mae gwaith gwych wedi ei wneud yn barod - mae hwn yn gyfle i ni ymestyn a datblygu ar hynny yng Ngheredigion a Sir Gâr."
Becws Islyn, Aberdaron:
"Mae ARFOR wedi rhoi hyder i ni fel busnes allu cwblhau estyniad i'r busnes a chodi hyder i gynyddu nifer y bobl rydyn ni'n eu cyflogi. Mae ARFOR wedi bod o fudd mawr i Becws Islyn, a hefyd i’r pentref a chymuned Aberdaron."
Mêl Cymreig Gwenyn Gruffydd
"Fel busnes rydym yn ddiolchgar iawn i gynllun ARFOR am y gefnogaeth a gafwyd i brynu offer ar gyfer cynhyrchu cwyr mêl a gwenyn, yn ogystal â chyfrifiadur i redeg y busnes pan sefydlwyd y busnes. Roedd y cynllun hefyd yn ein galluogi i greu swydd llawn amser. "
Dywedodd Bwrdd ARFOR:
"Rydym yn falch iawn o weithio gyda Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru ar weithredu ail rownd Rhaglen ARFOR. Mae hwn yn gyfle i ni ddatblygu ymhellach y gwaith sydd eisoes ar y gweill, a chwrdd â'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau mewn ffyrdd arloesol. Mae hefyd yn gyfle cyffrous i fusnesau yn y rhanbarth chwilio am waith a fydd yn eu galluogi i atgyfnerthu a datblygu cadarnleoedd Cymru, gan gynyddu gwelededd y Gymraeg o fewn cymunedau a ledled y Rhanbarth."