English icon English

“Argyfwng a achoswyd yn Stryd Downing” – Llywodraeth Cymru ar ddatganiad y Canghellor

"A crisis made in Downing Street” – Welsh Government on Chancellor’s statement

Mewn ymateb i ddatganiad ariannol diweddaraf y Canghellor, dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru:

“Mae gwrth-droi’r gyllideb fechan yn llwyr yn dangos yr annibendod sydd wrth wraidd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mewn cwta chwe wythnos, mae polisi economaidd diofal a diffygiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi achosi anhrefn yn y marchnadoedd ariannol, wedi cynyddu costau morgeisi ac wedi rhoi mwy o bwysau fyth ar gyllidebau pobl.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig nawr yn lleihau ei chynllun cymorth pris ynni i aelwydydd. Bydd hyn yn ychwanegu at yr ansicrwydd y bydd pobl yn ei wynebu wrth iddyn nhw bryderu am dalu biliau.

“Mae’r Canghellor newydd wedi awgrymu bod cyfnod newydd o gyni o’n blaenau er mwyn cau’r bwlch yn y cyllid cyhoeddus. Byddwn ni i gyd yn talu am gamgymeriadau’r Llywodraeth. Ond argyfwng a achoswyd yn Stryd Downing yw hwn a dyna ble y dylid ei ddatrys.

“Mae angen i’r Canghellor ddefnyddio ei ddatganiad ariannol nesaf i roi sicrwydd na fyddwn ni’n gweld y toriadau dyfnion mewn gwariant a fyddai’n effeithio ar swyddi, gwasanaethau a’n heconomi. Rhaid iddo ddarparu cefnogaeth i aelwydydd sydd mewn sefyllfaoedd bregus. Mae’r aelwydydd hynny wedi cael eu hanwybyddu heddiw."