English icon English

Arloeswyr Hydrogen Gwyrdd Byd-eang yn gwneud Doc Penfro yn bencadlys newydd

Global Green Hydrogen pioneers make Pembroke Dock their new HQ

Mae Haush Ltd yn bwriadu bod y cyntaf o'i fath i gynnig hydrogen gwyrdd i ddatgarboneiddio tir, môr a thrafnidiaeth awyr yn ogystal ag allforion tanwydd i Ewrop.

Heddiw mae cwmni ynni a thechnoleg gwyrdd sy'n arbenigo mewn hydrogen gwyrdd wedi cyhoeddi'n swyddogol mai Doc Penfro yw eu pencadlys newydd wrth iddynt fwrw ymlaen gyda chynlluniau i wneud yr ardal yn bwerdy hydrogen gwyrdd.

Bydd y gwaith ar eu Pencadlys Fleet Surgeons House nawr yn cychwyn yn fuan, a bydd y swyddi cyntaf yn cael eu creu ar unwaith a chynlluniau i ddatblygu canolfan addysg.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi Haush drwy Brosiect Ail-lenwi Porthladd Hydrogen HYBRID SBRI (HyPR).

Mae'r prosiect yn datblygu treialon i gynhyrchu hydrogen cyflym a gwasanaethau ail-lenwi ar gyfer gwasanaethu fflyd llongau ar y tir ac ar y môr. Mae hyn yn cynnwys dylunio datrysiad ail-lenwi hydrogen parhaol ar gyfer Porthladd Aberdaugleddau.

Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, daith o amgylch safle newydd Doc Penfro gan Brif Swyddog Gweithredol Haush, Richard Winterbourne, y Prif Swyddog Technoleg, Joanna Oliver, y Prif Swyddog Gweithredol Adam Hill a'r Prif Swyddog Ariannol Peter Kristensen ddoe.

Dywedodd Rebecca Evans:

"Mae swyddi a thwf gwyrdd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, felly rwy'n falch iawn fod Haush wedi dewis gwneud Doc Penfro yn brif swyddfa newydd yn y DU.

"Mae gan y cwmni gynlluniau twf uchelgeisiol, sy'n cyd-fynd â'n dyheadau ni ein hunain i weld Cymru'n dod yn arweinydd byd-eang mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd. Bydd y buddsoddiad hwn yn dda i'n hinsawdd a'n heconomi, a bydd yn creu swyddi medrus, o ansawdd.

"Mae Haush wedi nodi ei fwriad i hyfforddi trigolion lleol i'r safonau uchaf ar gyfer yr holl swyddi a grëwyd yn Noc Penfro, Aberdaugleddau ac ymhellach, ac ehangu i'r gymuned gyfagos yr agwedd addysgol ar bopeth maen nhw'n ei wneud."

Dywedodd Richard Winterbourne, Prif Swyddog Gweithredol Haush:

"Mae Haush yn falch iawn o allu gwneud y cyhoeddiad hwn heddiw, ac i fynd â'r prosiect cynhyrchu hydrogen gwyrdd cyffrous hwn yn ei flaen. Rydym yn edrych ymlaen at weithio law yn llaw â Llywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hyfforddi ac addysgol i'r gymuned leol, gan gynnwys darparu set sgiliau trosglwyddadwy i weithlu'r dyfodol."

Ychwanegodd Prif Swyddog Technegol Haush Joanna Oliver:

"Bydd Haush ar flaen y gad o ran technoleg hydrogen gwyrdd ac mae yn gobeithio chwarae rhan bwysig wrth wireddu'r trawsnewidiad ynni gwyrdd lleol."