Arweinwyr ysgolion o Bacistan yn dysgu am bolisi addysg Cymru
School leaders from Pakistan learn about Welsh education policy
Mae arweinwyr ysgolion o Bacistan wedi ymweld â dwy ysgol yng Nghymru i ddysgu am Ysgolion Bro, ymgysylltu â theuluoedd a llywodraethu ysgolion.
Nod Ysgolion Bro yw mynd i'r afael â'r effaith y mae tlodi yn ei chael ar gyrhaeddiad addysgol. Maent yn cynnig cefnogaeth i blant drwy greu cysylltiad cryf rhwng yr ysgol, teuluoedd a'r gymuned leol drwy gydweithio.
Dangoswyd bod ymgysylltu â theuluoedd yn gwella presenoldeb, cyrhaeddiad ac ymddygiad a lles plant a dysgwyr. Mae ymgysylltu â'r gymuned hefyd yn fanteisiol i ddysgwyr a'u teuluoedd ac yn creu cymunedau grymus a chysylltiedig.
Mae Llywodraeth Cymru am i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgol Fro.
Fel rhan o raglen dridiau a drefnwyd gan y British Council, ymwelodd dirprwyaeth o 10 uwch swyddog addysg o Punjab a Khyber Pakhtunkhwa ag Ysgol Gynradd Adamsdown yng Nghaerdydd, lle dangoswyd sesiwn Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd iddynt a gwers bêl-droed o dan arweiniad partneriaid yr ysgol yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Heddiw byddant hefyd yn ymweld ag Ysgol Gyfun Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle byddant yn dysgu am ddulliau arloesol yr ysgol o gefnogi disgyblion a'u teuluoedd i ddelio â'r cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd i aelodau'r teulu ddod i sesiynau coginio a gwaith coed.
Dywedodd aelodau'r ddirprwyaeth, wrth drafod yr ymweliad: "Mae hwn wedi bod yn brofiad dysgu cyfoethog a fydd yn ein gwthio i dyfu, yn ein cysylltu â chyd-arweinwyr, ac yn ein hysbrydoli i arloesi yn ein harferion addysgol ein hunain.
"Bydd yr ymweliad hwn yn cyfrannu at wella'r sector addysg yn Punjab o ran materion fel cynghorau rheoli ysgolion, ymgysylltu â'r gymuned, cofrestru athrawon ac ardystio."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae bob amser yn bleser croesawu ymwelwyr rhyngwladol i Gymru, ac rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu arddangos ein Hysgolion Bro. Maent yn hanfodol wrth gefnogi ein teuluoedd a'n cymunedau a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu.
Mae gwella presenoldeb a chyrhaeddiad yn flaenoriaethau i mi a Llywodraeth Cymru, ac mae Ysgolion Bro yn rhan hynod bwysig o hyn. Rwy'n falch iawn bod y polisi da sydd gennym yma yng Nghymru yn ysbrydoli polisïau addysgol mewn mannau eraill."
Hwylusodd y British Council ym Mhacistan ac yng Nghymru y ddirprwyaeth o Punjab a Khyber Pakhtunkhwa yr wythnos hon, sy'n rhan o ymweliad ehangach yn y DU i edrych ar arweinyddiaeth a llywodraethu yn ysgolion y DU.
Ruth Cocks – Cyfarwyddwr British Council Cymru. "Rydym yn falch iawn ein bod wedi dod ag arweinwyr addysg Cymru a'u cymheiriaid yn Punjab a Khyber Pakhtunkhwa at ei gilydd i edrych ar arferion gorau mewn arweinyddiaeth ysgolion yma yng Nghymru. Rydym yn cydweithio â dros 200 o wledydd ledled y byd a gall y rhwydwaith hwnnw agor drysau i ddysgu rhyngwladol i Gymru a'r byd.
"Mae'r ymweliad hwn yn dangos datblygiad polisi Cymru yn y fenter Ysgolion Bro, sy'n dod â theuluoedd, ysgolion a gwasanaethau cymunedol ynghyd er budd y dysgwyr, arweinwyr a lles yr ysgol gyfan. Dechreuodd ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru ac Ysgolion Bro yn 2012 , pan gynhaliwyd ymweliadau datblygiad proffesiynol â'r Unol Daleithiau i arsylwi ar eu gwaith gydag ysgolion a'r gymuned leol. Felly mae'n hyfryd gweld hyn yn dod i benllanw a Chymru'n cefnogi gwledydd eraill..
"Rwy'n sicr y bydd y profiad hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i'r holl addysgwyr dan sylw, ac yn y pen draw yn gwella profiadau dysgu ac yn cryfhau cymunedau yn y ddwy wlad."