English icon English

Atal afiechyd yn flaenoriaeth frys yn ôl prif feddyg Cymru

Wales’ top doctor says preventing ill-health is an urgent priority

Rhaid i Gymru symud ar frys tuag at ddull atal yn gyntaf o ymdrin ag iechyd i fynd i'r afael â chyfraddau disgwyliad oes sy'n aros yn eu hunfan a phwysau cynyddol ar ei gwasanaethau iechyd, yn ôl Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol a gyhoeddwyd heddiw.

Mae'r adroddiad, "Myfyrio ar ein Hiechyd", yn nodi gostyngiad mewn disgwyliad oes, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, gyda phobl bellach yn byw mwy o flynyddoedd o’u bywyd gydag afiechyd. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod modd atal tua 75% o farwolaethau mewn pobl o dan 75 oed yng Nghymru. Serch hynny, mae hefyd yn nodi bod mentrau atal llwyddiannus, fel rheoli tybaco, wedi dangos y potensial ar gyfer gwelliannau sylweddol yn iechyd y boblogaeth dros amser.

Pe na bai cyfraddau smygu wedi newid yn ystod y degawd diwethaf, byddai mwy na 170,000 o smygwyr ychwanegol 18 oed neu hŷn. Pe bai cyfraddau smygu yn parhau i ostwng o'r 10% presennol yng Nghymru i 8%, amcangyfrifir y byddai'r newid hwn ar ei ben ei hun yn atal bron i 600 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â smygu a 2,700 o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â smygu bob blwyddyn.

Mae'r adroddiad yn galw am weithredu ar draws pob lefel o lywodraeth a chymdeithas i fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol iechyd; parhau i gefnogi rhieni a rhaglenni addysg blynyddoedd cynnar ar gyfer teuluoedd incwm isel; annog brechu a sgrinio a helpu oedolion i wneud dewisiadau iachach.

Ymysg y prif ganfyddiadau roedd y canlynol:

  • Mae nifer cyfartalog y blynyddoedd y gall pobl yng Nghymru ddisgwyl bod mewn iechyd da yn gostwng, yn enwedig ymhlith menywod
  • Mae tystiolaeth yn dangos bod rhaglenni iechyd cyhoeddus yn cynnig enillion ar fuddsoddiad –14 i 1 ar gyfartaledd
  • Heb gyflymu gweithredu ar atal, gallai pobl sy'n byw gyda phedwar neu fwy o gyflyrau hirdymor bron ddyblu erbyn 2035
  • Mae afiechyd corfforol a meddyliol y gellir ei atal yn cyfrannu at anweithgarwch economaidd cynyddol a chostau cynyddol

Chwe mis ar ôl dechrau yn ei swydd newydd, dywedodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru, ei bod wedi cael ei tharo gan faint yr her a dyfnder yr ymrwymiad ledled Cymru, gan ychwanegu:

"Fe wnes i benderfynu ymgymryd â rôl Prif Swyddog Meddygol Cymru oherwydd fy mod i am weithio gyda phobl Cymru i wireddu'r ffocws hwn ar atal. Fe ges i fy nenu at ein strategaethau a’n polisïau blaengar a fydd, os byddan nhw'n cael eu gweithredu'n effeithiol, yn trawsnewid iechyd pobl Cymru.

"Ond mae hon yn her fawr i'n harweinwyr yn y gwasanaeth iechyd. Mae hefyd yn gofyn am newidiadau mewn cymdeithas, ac ar lefel unigol, fel bod iechyd yn cael ei gydnabod fel cyfrifoldeb – yn ogystal â hawl – i bawb yng Nghymru.

"Mae'r dystiolaeth yn glir – mae atal yn cynnig gwerth anhygoel am arian. Cyn y bleidlais yn y Senedd yr wythnos nesaf ar y Bil Tybaco a Fêps, nid oes lle i laesu dwylo – mae angen inni weld cyfraddau smygu yn parhau i ostwng. Ond mae angen inni hefyd efelychu'r cynnydd ym maes rheoli tybaco ar draws meysydd eraill – fel bwyta'n iach ac ymarfer corff."

Er mwyn cryfhau'r ymdrechion i atal, mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi sefydlu Grŵp Cynghori ar Atal Afiechyd i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol a sicrhau bod ystyriaethau o ran atal yn elfen allweddol o gyngor gweinidogol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth, a fydd yn ei gwneud hi'n orfodol i gyrff cyhoeddus penodedig ystyried effaith eu penderfyniadau – mewn sectorau fel tai, addysg a thrafnidiaeth – ar iechyd hirdymor y boblogaeth.