Atgoffa pobl Cymru i gael eu pigiad atgyfnerthu
Reminder for people to get their spring booster in Wales
Mae’r bobl sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn cael eu hannog i gael eu brechu cyn y dyddiad pan ddaw’r cynnig i ben, sef dydd Iau 30 Mehefin.
Ers diwedd mis Mawrth, mae pobl 75 oed a hŷn, preswylwyr mewn cartrefi gofal, ac unrhyw un sy’n 12 oed neu hŷn ac sydd â system imiwnedd gwan wedi gallu cael pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn i wella eu lefel o amddiffyniad yn erbyn COVID-19.
Drwy fanteisio ar y cynnig o bigiad atgyfnerthu nawr, bydd hyn yn sicrhau digon o fwlch rhwng dosau os yw’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn dweud eu bod yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn ystod tymor yr hydref 2022.
Os yw rhywun sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn wedi cael COVID-19 yn ddiweddar, bydd angen iddynt aros 28 diwrnod o’r dyddiad y cawsant brawf positif cyn cael eu brechu. Byddant yn gallu cael y brechlyn ar ôl 30 Mehefin os ydynt wedi gorfod gohirio eu hapwyntiad oherwydd salwch.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:
“Mae ein cyfraddau brechu uchel yn galonogol iawn ac mae pob un brechlyn yn helpu pobl i sicrhau lefelau uchel o amddiffyniad rhag COVID-19.
“Os ydych chi wedi cael cynnig pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn, gwnewch ymdrech i drefnu apwyntiad cyn y dyddiad terfyn ar 30 Mehefin a pharhau i ddiogelu Cymru.”
Anogir rhieni a gwarcheidwaid hefyd i wirio pa bryd y dylai eu plant 5 i 11 oed gael eu brechlyn nesaf.
Os oedd plentyn wedi cael COVID-19 yn ddiweddar pan gynigiwyd y brechlyn iddo ar ddechrau’r gwanwyn, gall ei gael ar ôl 12 wythnos.
Bydd unrhyw blentyn sydd wedi cael ei ddos cyntaf yn cael ei annog i fanteisio ar ail ddos cyn dechrau tymor ysgol yr hydref gan y bydd hyn yn helpu i leihau unrhyw darfu posibl ar ei addysg yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Rydym hefyd yn annog myfyrwyr i gael eu cwrs llawn o ddau ddos cyn dychwelyd i’r brifysgol neu i’r coleg ym mis Medi i wneud yn siŵr bod ganddynt yr amddiffyniad gorau posibl.
Ewch i wefan eich bwrdd iechyd lleol i gael manylion llawn ynglŷn â sut i gael eich brechu - https://llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19