Atgoffa pobl yng Nghymru sut i helpu i atal heintiau anadlol rhag lledaenu
People in Wales reminded how they can help stop the spread of respiratory infections
Wrth i’r haf ddirwyn i ben ac ysgolion baratoi i ddychwelyd, mae’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones, yn atgoffa pobl i aros gartref ac osgoi cyswllt ag eraill os ydyn nhw’n sâl ac os oes ganddyn nhw dymheredd uchel.
Gall heintiau anadlol, fel y ffliw a COVID-19, ledaenu’n hawdd rhwng pobl. Mae symptomau’n amrywio o beswch parhaus, gwres neu deimlo’n oer, poenau yn y cyhyrau neu boenau nad ydyn nhw o ganlyniad i ymarfer corff, dolur gwddf, trwyn yn llawn neu’n rhedeg, dolur rhydd, teimlo’n sâl a thaflu i fyny.
Nid yw COVID-19 wedi diflannu ac mae’n parhau i ddatblygu a newid.
Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones:
“Mae heintiau anadlol yn lledaenu’n hawdd rhwng pobl yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r symptomau er mwyn ichi allu cymryd y camau i leihau’r risg o ledaenu eich haint i bobl eraill.
“Dylai pob un ohonom fod yn ofalus a chymryd camau synhwyrol i ddiogelu ein hunain ac eraill rhag COVID-19 a feirysau anadlol eraill. Os ydych chi’n teimlo’n sâl, dylech osgoi cyswllt ag eraill a dweud wrth y bobl rydych chi wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn ddiweddar, fel y gallan nhw fod yn ymwybodol o arwyddion neu symptomau.
“Mae golchi dwylo’n aml a gorchuddio’ch ceg a’ch trwyn â hances tafladwy wrth besychu a thisian hefyd yn cael eu hannog.
“Os ydych chi’n byw neu’n ymweld â rhywun sydd â chyflwr iechyd cronig neu system imiwnedd wan, dylech ystyried gwisgo masg ac osgoi ymweld ag ysbytai a lleoliadau gofal os oes gennych symptomau.
“Cael ein brechu yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud o hyd i ddiogelu ein hunain rhag y ffliw a COVID-19. Felly, os ydych chi’n gymwys, manteisiwch ar eich cynnig o frechlyn.”
Mae rhaglen frechu’r hydref yng Nghymru yn dechrau ar 11 Medi. Bydd brechiadau rhag y ffliw a COVID-19 yn cael eu cyflwyno i bobl dros 65 oed, pobl yn y grwpiau risg a’r rhai sy’n gweithio neu’n byw gyda phobl sy’n agored i niwed.
Dywedodd Dr Christopher Johnson, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd a Phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Er nad yw COVID-19 ar flaen meddyliau pawb, neu efallai ei fod hyd yn oed yn rhywbeth y byddai’n well gan bobl ei anghofio, mae’n bwysig cofio bod y feirws yn dal gyda ni.
“Mae camau syml ond pwysig y gall pawb eu cymryd i ddiogelu eu hunain, eu hanwyliaid, a’r Gwasanaeth Iechyd, yn enwedig gyda mwy o gymysgu cymdeithasol wrth i ysgolion ddychwelyd, a chynnydd yn y niferoedd.
“Os ydych chi’n teimlo’n sâl, dylech aros gartref ac osgoi cyswllt ag eraill, fel y byddech chi’n ei wneud er mwyn osgoi lledaenu unrhyw haint anadlol arall, fel y ffliw. Pan fyddwch chi’n pesychu neu’n tisian, gwnewch hynny mewn hances, a golchwch eich dwylo’n aml er mwyn osgoi trosglwyddo germau. Dylid cymryd gofal arbennig o amgylch pobl sy’n agored i niwed neu bobl oedrannus, felly ceisiwch osgoi cyswllt â’r bobl hyn os ydych chi’n sâl. Ac wrth gwrs, manteisiwch ar y cynnig o frechiad rhag y ffliw a brechlyn COVID-19 os cewch eu cynnig. Dyma’r ffyrdd gorau o atal lledaeniad y feirws, diogelu’ch hun a’ch teulu a helpu’r Gwasanaeth Iechyd.”