Bil arloesol er mwyn gwahardd plastigion untro yng Nghymru ac osgoi gadael ‘gwaddol gwenwynig’ i genedlaethau’r dyfodol
Ground-breaking Bill to ban single-use plastics in Wales and avoid leaving a ‘toxic legacy’ for future generations
Heddiw, bydd cam allweddol yn cael ei gymryd i leihau’r llif o wastraff plastig sy’n dinistrio bywyd gwyllt a’r amgylchedd yng Nghymru gan y disgwylir i Fil sy’n gwahardd plastigion untro gael ei osod gerbron y Senedd.
Mae mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yn ganolog i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Caiff y rhan fwyaf o blastigion eu gwneud o danwyddau ffosil. Gall eu lleihau gynorthwyo ein hymdrechion tuag at sero net, gan helpu i ostwng ein hôl troed carbon er mwyn lleihau effeithiau gwaethaf yr argyfwng hinsawdd.
Yn 2011, Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i godi tâl am fagiau siopa untro. Ar hyn o bryd, Cymru yw’r trydydd ailgylchwr domestig gorau yn y byd.
O hyn ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru ar flaen y gad o ran gweithredu ar blastig gyda’r nod i Gymru fod y rhan gyntaf o’r DU i ddeddfu yn erbyn rhestr mor gynhwysfawr o blastigion untro.
Bydd Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn ei gwneud yn drosedd i gyflenwi neu gynnig cyflenwi cynhyrchion plastig untro tafladwy diangen sy’n cael eu taflu fel sbwriel i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Mae hyn yn darparu awdurdodau lleol â phwerau i orfodi’r drosedd, ac yn cynnwys:
- Cytleri
- Platiau
- Troyddion diod
- Gwellt diodydd – mae eithriad i’r cynnyrch hwn ar gyfer anghenion meddygol
- Ffyn cotwm sydd â choesau plastig
- Ffyn balwnau
- Cynhwysyddion cludfwyd polystyren allwthiedig ewynnog a pholystyren ehangedig
- Cwpanau polystyren allwthiedig ewynnog a pholystyren ehangedig
- Caeadau polystyren holl gwpanau a chynhwysyddion cludfwyd
- Bagiau siopau untro sydd wedi’u gwneud o blastig tenau
- Holl gynhyrchion sydd wedi’u gwneud o blastig ocso-ddiraddiadwy
Mae’r penderfyniad i gynnwys y cynhyrchion hyn yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2020, gyda phob un ohonynt â dewisiadau amgen di-blastig neu amldro.
Yn bwysig, a chyda chefnogaeth y Senedd, bydd y Bil hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion ychwanegu cynhyrchion, neu gael gwared ohonynt, gan roi Cymru wrth y llyw ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i weithio gyda’r diwydiant, busnesau, cyrff y trydydd sector, y byd academaidd ac eraill er mwyn helpu i ddatblygu polisïau’r dyfodol.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
“Mae hon yn foment fawr yn ein taith tuag at Gymru ddi-blastig.
“Gwelwn yn aml gynhyrchion plastig untro wedi’u taflu fel sbwriel ar ein strydoedd, ein parciau a’n moroedd. Nid yn unig eu bod yn hyll, ond maen nhw hefyd yn achosi effeithiau dinistriol ar ein bywyd gwyllt a’n hamgylchedd.
“Gydag ymdrech Cymru ar y Cyd, mae rhaid inni ddweud na wrth y diwylliant eitemau untro er mwyn osgoi gadael gwaddol gwenwynig o blastig i genedlaethau’r dyfodol orfod delio ag ef.
“Drwy feddwl yn wahanol, gwneud newidiadau i’n ffordd o fyw a dewis cynhyrchion amldro, gallwn arbed arian a helpu i frwydro yn erbyn effeithiau dinistriol newid hinsawdd.”
Mae problem gwastraff plastig yn broblem gyffredin ledled Cymru, yn aml yn diweddu mewn mannau megis Bae Caerdydd, lle y mae Awdurdod Harbwr Caerdydd a gwirfoddolwyr o sefydliadau megis Grŵp Afonydd Caerdydd yn cynnal sesiynau glanhau, gan gasglu oddeutu 500 tunnell o sbwriel bob blwyddyn, gyda llawer ohono yn blastig.
Wrth siarad ynghylch cyflwyno’r Bil arfaethedig er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn croesawu deddfwriaeth i wahardd plastigion untro. Mae’n gam cadarnhaol ar ein taith tuag at drawsnewid yn llwyr y ffordd rydyn ni’n defnyddio plastigion, yn ogystal â lleihau gwastraff fel cenedl.
“Yn hanfodol, mae’n llywio’r ffordd i ddiwydiant symud i ffwrdd o arferion llygredig sy’n dinistrio’n hamgylchedd ac sy’n niweidio’n bywyd gwyllt.
“Wrth i dueddiadau defnyddwyr barhau i ddatblygu, gobeithiwn y bydd y pwerau a roddir yn y Bil yn caniatáu i Gymru ymateb i’r bygythiadau sy’n dod i’r amlwg yn sgil cynhyrchion plastig untro eraill.”