Bil i fynd i'r afael â llygredd aer a sŵn wedi’i basio yn y Senedd, sy'n cefnogi dyfodol glanach, iachach a gwyrddach
Bill to tackle air and noise pollution passed in the Senedd, supporting a cleaner, healthier and greener future
Heddiw (dydd Mawrth, 28 Tachwedd) mae deddfwriaeth newydd wedi'i phasio yn y Senedd, gan roi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru wella ansawdd aer a lleihau llygredd sŵn ledled Cymru.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio llygredd aer fel y risg unigol mwyaf yn y byd o ran iechyd yr amgylchedd a llygredd sŵn fel yr ail risg fwyaf yng Ngorllewin Ewrop.
Mae'r Bil, a gyflwynwyd i'r Senedd ym mis Mawrth 2023, yn rhoi mesurau ar waith sy'n cyfrannu at welliannau o ran ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru ac yn lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a'n heconomi.
Mae'r Bil yn ategu ymhellach y gwaith o gyflwyno pecyn hanfodol o fesurau a nodir yn ein Cynllun Aer Glân i Gymru er mwyn gwella'r amgylchedd aer yng Nghymru.
Mae hefyd yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru wneud polisïau sy'n mynd i'r afael â sŵn nad oes ei eisiau ac yn diogelu synau sy'n bwysig i bobl, fel trydar adar a synau ymlaciol byd natur, neu synau croesawgar canol tref fywiog.
Llywodraeth Cymru yw'r llywodraeth gyntaf yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth ystyried seinweddau, ac mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer a chyhoeddi strategaeth seinwedd genedlaethol flaengar.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Rwy'n falch iawn bod y Bil wedi'i basio gan y Senedd. Mae hyn yn dangos ymrwymiad ar y cyd i gefnogi camau ataliol mewn perthynas ag aer, sŵn a seinweddau i sicrhau gwelliannau o ran iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd.
“Mae'r Bil hwn yn ein galluogi i gyflawni targedau ansawdd aer gwell i Gymru, gyda dyletswyddau cryfach i Weinidogion Cymru nodi sut y byddwn yn gwella ein hamgylchedd aer. Mae hefyd yn gwella ein pwerau deddfwriaethol i reoli ansawdd aer yn well ar lefel leol a rhanbarthol. Yn olaf, mae'n nodi dyletswyddau newydd pwysig i Weinidogion Cymru hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer, ochr yn ochr â ffyrdd o leihau ei effaith.
“Rhaid i ni rymuso'r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol gyda gwybodaeth am effeithiau llygredd aer a'r camau y gallant eu cymryd i leihau eu cysylltiad â llygredd aer.
“Nawr yw'r amser i weithredu. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â phartneriaid cyflawni, rhanddeiliaid a'r cyhoedd i weithredu'r Bil.”
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton: “Mae gan Gymru hanes cryf eisoes o arwain y ffordd wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yn dangos yr ymroddiad a'r ymrwymiad ar draws y llywodraeth i wella'r aer rydym yn ei anadlu a hyrwyddo seinweddau iach.
“Rydym yn gwybod y gall dod i gysylltiad â llygredd aer a sŵn gynyddu'r risg o salwch difrifol, effeithio ar ein lles, a gwaethygu ansawdd ein bywyd. Dyna pam yr wyf yn falch bod y ddeddfwriaeth hon wedi dod yn gyfraith. Drwy wneud ein haer yn lanach a'n hamgylchedd sain yn well, gallwn wella iechyd y cyhoedd ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.”
DIWEDD