Buchesi Cymru’n cymryd y cam nesaf i ddileu BVD
Welsh cattle herds take next step to eradicate BVD
- Cam nesa’ rhaglen y diwydiant i ddileu BVD yng Nghymru – gyda chefnogaeth undebau’r ffermwyr, milfeddygon, marchnadoedd ac arwerthwyr.
- Rheolau newydd ar 1 Gorffennaf 2026 i ddiogelu iechyd a lles gwartheg a chynhyrchiant ffermydd yng Nghymru
- Rhaid i geidwaid buchesi sydd heb statws BVD negatif gynnal profion cyn symud ar eu gwartheg cyn iddyn nhw adael y daliad
Bydd buchesi ceidwaid gwartheg Cymru’n iachach ac yn fwy cynhyrchiol, diolch i gam nesa rhaglen y diwydiant i ddileu Dolur Rhydd Feirysol y Gwartheg (BVD) a ddaw i rym ar 1 Gorffennaf 2026.
Mae deddfwriaeth newydd, y gwnaeth Grŵp Llywio BVD Cymru helpu i’w llywio, yn golygu mai Cymru yw’r wlad ddiweddaraf i ymrwymo i ddileu BVD – gan ymuno â’r Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a llawer gwlad yn Ewrop.
Bydd cael gwared ar y clefyd yn torri costau i fusnesau fferm, yn gwella iechyd a lles gwartheg ac yn lleihau ôl troed carbon amaethyddiaeth.
Beth fydd yn newid ar 1 Gorffennaf 2026:
- Rhaid i geidwaid gwartheg sydd â buchesi sydd heb statws BVD negatif gynnal profion cyn symud ar wartheg cyn mynd â nhw oddi ar y daliad.
- Dim ond anifeiliaid sy’n cael canlyniad negatif, sy’n ddilys am 60 diwrnod, sy’n cael symud. Mae’n drosedd symud anifail sydd wedi cael canlyniad BVD positif neu anifail sydd â haint parhaus.
- Rhaid rhoi prawf o fewn 20 diwrnod i wartheg nad ydych yn gwybod beth yw eu statws BVD sy’n dod i ddaliad yng Nghymru o’r tu allan i Gymru
Bydd ceidwaid nawr yn cael cynnal profion cyn symud ar loi ifanc a phrofion ar ôl symud ar bob anifail eu hunain, gan ddefnyddio’r sampl meinwe clust ‘Tag a Phrawf’ – gan leihau’r angen am ymweliadau gan filfeddygon a chadw costau cydymffurfio i lawr.
Dywedodd y Gweinidog Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd:
“Rwy’n cydnabod bod BVD yn cael effaith ddifrifol, nid yn unig ar safonau iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd ar gynhyrchiant, gan gynnwys cynyddu costau i fusnesau fferm.
“Mae ffermwyr Cymru eu hunain wedi dweud bod dileu BVD yng Nghymru yn flaenoriaeth – bydd cael gwared ar y clefyd hwn ym muchesi gwartheg Cymru yn dod â manteision mawr i iechyd a chynhyrchiant gwartheg a hefyd i les gwartheg, elw’r fferm a’r ôl troed carbon.
“Mae ein diwydiant ar yr un llwybr â’r Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a sawl gwlad yn Ewrop. Hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid sy’n aelodau o Grŵp Llywio BVD Cymru am eu gwaith caled yn creu’r cam nesaf hwn. Byddwn yn dal i wrando ar ffermwyr a’r diwydiant a chydweithio â nhw, a bydd y rhaglen ddileu’n esblygu gan gadw ffocws clir yr un pryd ar y nod o Gymru heb BVD."
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine:
“BVD yw un o’r clefydau endemig mwyaf niweidiol sy’n taro gwartheg yng Nghymru – felly mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i’w ddileu. Mae feirws y BVD yn gwanhau’r system imiwnedd, yn lleihau ffrwythlondeb ac yn cynyddu risg ac effaith clefydau eraill fel niwmonia a sgwrio. Hefyd, ambell waith, ni fydd ceidwad yn gwybod bod BVD ar ei fuches.
“Mae cam nesa’r rhaglen dileu yn dod â mesurau newydd, gan gynnwys cyfyngiadau symud ar ddaliadau heb statws negatif, a phrofion ar wartheg o’r tu allan i Gymru nad ydyn ni’n gwybod eu statws. Ynghyd â phwyslais ar brynu gwartheg o ffynonellau diogel, bydd y mesurau hyn yn ein helpu i rwystro’r clefyd rhag lledaenu ac yn prysuro’r camau i gael gwared ar wartheg sydd â haint parhaus o fuches y wlad.
“Mae gan Gymru sylfeini cryfion i adeiladu arnyn nhw. Mae’r sgrinio blynyddol eisoes wedi rhoi darlun clir o sefyllfa’r BVD yn y wlad. Mae’r cam nesaf yn rhoi’r wybodaeth honno ar waith. Rwy’n canmol Grŵp Llywio BVD a’r Grŵp Cynghori Technegol am eu gwaith ac rwy’n annog holl geidwaid gwartheg y wlad i gadarnhau statws eu buches trwy EIDCymru nawr.”
Dywedodd John Griffiths, Cadeirydd Grŵp Llywio BVD Cymru:
“Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn brawf o ymrwymiad a gwaith caled pawb sy’n gysylltiedig â rhaglen BVD Cymru – yn ffermwyr, milfeddygon, marchnadoedd, arwerthwyr a’r ddau undeb ffermwyr. Mae hon yn fenter sydd wastad wedi bod dan arweiniad y diwydiant a dyna pam ei bod mor bwysig.
“Mae’r rhaglen sgrinio buchesi’n dangos bod pedair buches o bob pump yn negatif ac na fydd angen iddynt wneud unrhyw beth am 12 mis ar ôl y dyddiad sgrinio. Rydyn ni am i’r ganran hon godi i 100%. Mae atal anifeiliaid sydd â haint parhaus rhag symud, heblaw am i’w lladd, yn hanfodol i daro’r nod.
“Rydym yn gofyn i bawb sy’n cadw gwartheg yng Nghymru i gadarnhau statws BVD eu buches nawr a gwneud yn siŵr eu bod yn deall beth fydd angen iddyn nhw wneud o 1 Gorffennaf. Mae hi’n bosib cael gwared ar BVD yng Nghymru – a bydd cymryd y camau hyn gyda’n gilydd dros y misoedd i ddod yn mynd â ni’n nes at wireddu’r nod hwnnw.”