Newyddion

Canfuwyd 22 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Welsh Government

Taliadau i filoedd o ffermwyr wedi cyrraedd eu cyfrifon

  • Mae 90% o’r ffermydd sy'n hawlio taliad Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a 94% o ffermydd sy'n hawlio taliad y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) bellach wedi cael eu taliad cyntaf (y rhagdaliad). 
  • Cafodd canran yr SFS a'r BPS sy'n cael ei dalu fel rhagdaliad ei gynyddu eleni i 80% i helpu ffermwyr â'r problemau llif arian sydd wedi’u hachosi gan dywydd sych yr haf  
  • Adeiladu ar y cymorth sydd eisoes wedi'i gyhoeddi ar gyfer y diwydiant 
Welsh Government

Paratowch nawr, peidiwch ag aros: Anogir ceidwaid adar i weithredu cyn perygl ffliw adar y gaeaf

  • Anogir pob ceidwad adar yng Nghymru i adolygu bioddiogelwch nawr, cyn cyfnod risg uwch y gaeaf  
  • Bioddiogelwch a hylendid llym yw'r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn heidiau rhag ffliw adar 
  • Mae rhestrau gwirio hunanasesu bioddiogelwch ar gael i helpu ceidwaid i nodi a chau unrhyw fylchau 
Welsh Government

Trefniadau newydd yn lleihau dyblygu ar gyfer ffermwyr y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Ni fydd angen i ffermwyr sy'n aelodau o gynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) gwblhau gofynion ‘Mesur’ a ‘Cynllunio’ Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) ar wahân ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) 2026. 

Welsh Government

Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr gyda 'sicrwydd, hyblygrwydd a chefnogaeth'

  • Mae taliadau ymlaen llaw ar gyfer busnesau fferm yn codi o 70% i 80%, gan leddfu pwysau llif arian a achosir gan yr amodau eithriadol o anodd y mae ffermwyr wedi'u hwynebu eleni.
  • Mae ffermwyr yn cael mwy o amser i reoli slyri yn ddiogel, gan y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i ymestyn y cyfnod agored ar gyfer lledaenu hyd at 15 Tachwedd 2026, gan ymateb yn uniongyrchol i effeithiau sychder yr haf hwn.
  • Dywed y Gweinidog mai rhoi amser ychwanegol i ffermwyr ledaenu'n ddiogel a lleihau lefelau 'bellach yw'r dewis amgylcheddol mwyaf cyfrifol'
Welsh Government

Dweud eich dweud am bwerau newydd i ddelio â'r sbwriel ar ochr y ffordd

  • Gallai perchnogion cerbydau gael eu dirwyo am sbwriel sy’n cael ei daflu o’u ceir 
  • Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn bla ar gymunedau, yn niweidio bywyd gwyllt ac mae'n anodd ei reoli o dan y gyfraith bresennol
  • Rydyn ni'n gofyn ichi am eich barn ac am dystiolaeth fel rhan o ymgynghoriad ehangach ar gynaliadwyedd amgylcheddol fydd ar agor tan 14 Hydref 
Welsh Government

Casglu arbenigwyr bwyd a ffermio blaenllaw ynghyd i helpu i fwydo dyfodol Cymru

  • Penodi aelodau i Weithgor Arbenigol i ddatblygu'r Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru 
  • Cyhoeddi Cylch Gorchwyl sy'n rhestru'r pedwar piler ar gyfer system fwyd wydn a chynaliadwy 
  • Bwriad i gyflymu gweithredu cynnar ar fwyd mewn ysgolion, garddwriaeth fwytadwy a'r gadwyn gyflenwi cig 
Welsh Government

Cyfle i fynegi eich barn ar fesurau diogelu newydd ar gyfer morloi ac ysgyfarnogod

  • Bydd ymgynghoriad pedair wythnos yn agor ar 21 Medi yn ceisio barn ar fesurau newydd i ddiogelu morloi ac ysgyfarnogod 
  • Mae'r cynigion yn cynnwys trosedd newydd am aflonyddu ar forloi a thymor cau i amddiffyn ysgyfarnogod yn ystod eu cyfnod bridio 
  • Gall pobl rannu eu barn unwaith y bydd yr ymgynghoriad yn lansio yn ddiweddarach y mis hwn 
Welsh Government

Mwy na 100 o achosion o'r Tafod Glas wedi'u cadarnhau yng Nghymru wrth i filfeddygon a ffermwyr gael eu hannog i frechu da byw

  • Mae achosion yn parhau i gynyddu yng Nghymru ac ar draws Prydain Fawr 
  • Mae gofynion profi ac adrodd yng Nghymru yn parhau i fod yn un peth
  • Anogir ceidwaid i drafod brechu gyda'u milfeddyg a rhaid iddynt roi gwybod ar unwaith os ydynt yn amau unrhyw achosion
Welsh Government

Trigolion Aberdaugleddau yn helpu i lunio rhwydwaith cymorth llifogydd cenedlaethol newydd yn dilyn llifogydd yn eu hardal

  • Bydd Grŵp Llywio'n cael ei sefydlu i helpu i greu corff annibynnol i gynnig cefnogaeth ymarferol i gymunedau cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. 
  • Mae'r cyhoeddiad yn dilyn ymweliad ag Aberdaugleddau, lle mae amddiffynfeydd llifogydd newydd yn cael eu hadeiladu. 
  • Bydd aelodau newydd yn cael eu penodi i'r pwyllgor sy'n cydlynu'r strategaeth llifogydd ledled Cymru. 
Welsh Government

Gwaith yn dechrau ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau gwaith ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru, sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli natur gyda'i gilydd yn hytrach nag fel materion ar wahân.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu Bwrdd Hinsawdd a Natur, dan gadeiryddiaeth Gweinidog y Cabinet, Llyr Gruffydd, i helpu i lunio'r cynllun a sicirhau cyflawniad.
  • Mae'r cynllun yn gosod targed o sero net erbyn 2040 ac adferiad natur sylweddol erbyn 2050.
cows in field-2

Prosiectau yn Sir Benfro a Gogledd Cymru yn cael eu hestyn yn y frwydr yn erbyn TB mewn gwartheg

  • Y Llywodraeth newydd wedi ymrwymo i ddileu TB mewn gwartheg 
  • Prosiectau yn Sir Benfro a Gogledd Cymru wedi cael eu hestyn yn dilyn llwyddiannau 
  • Cydweithrediad cryf rhwng ffermwyr, milfeddygon, y byd academaidd a'r llywodraeth yn allweddol i frwydro yn erbyn TB mewn gwartheg 
Welsh Government

Cymorth ar gael i ffermwyr wrth i'r tywydd sych barhau

  • Grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer tyllau turio, cynaeafu dŵr ac awyru 
  • Rhanddirymiadau dros dro ar gael i ffermwyr yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a ffermwyr sy'n cyflawni contractau cynlluniau paratoi. 
  • Canllawiau ar les anifeiliaid mewn tywydd eithafol ar gael