Paratowch nawr, peidiwch ag aros: Anogir ceidwaid adar i weithredu cyn perygl ffliw adar y gaeaf

Prepare now, don't wait: Bird keepers urged to act ahead of winter bird flu risk

  • Anogir pob ceidwad adar yng Nghymru i adolygu bioddiogelwch nawr, cyn cyfnod risg uwch y gaeaf  
  • Bioddiogelwch a hylendid llym yw'r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn heidiau rhag ffliw adar 
  • Mae rhestrau gwirio hunanasesu bioddiogelwch ar gael i helpu ceidwaid i nodi a chau unrhyw fylchau 

Mae ceidwaid adar ledled Cymru yn cael eu hannog i baratoi nawr, wrth i gyfnod risg uwch y gaeaf ar gyfer ffliw adar agosáu. 

Dylai pob ceidwad adar yng Nghymru, p'un a ydynt yn cadw ychydig o adar anwes neu ddiadell fasnachol fawr, weithredu i amddiffyn eu hadar nawr, nid aros nes bod y risg yn cynyddu.  

Gofynnir i geidwaid adolygu eu bioddiogelwch heddiw, cwblhau rhestr wirio hunanasesu, a chynnwys arfer da yn eu trefn ddyddiol.  

Gall arwyddion clinigol ffliw adar gynnwys pen chwyddedig, lliw glas y tu allan a thu mewn i'r gwddf, colli archwaeth, methu anadlu, dolur rhydd, dodwy llai o wyau, a mwy o farwolaethau. 

Rhaid i geidwaid adar sy'n amau ffliw adar yn eu haid gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith ar 0300 303 8268. 

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine:  

"Peidiwch ag aros nes bod y risg yn cynyddu - nawr yw'r amser i weithredu. Gwiriwch fod gennych hylendid a bioddiogelwch llym ar waith bob amser gan mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn eich adar rhag ffliw adar. 

"Mae mesurau syml, cyson, megis cadw ardaloedd adar a thai yn lân, cyfyngu ar ymwelwyr diangen, ac atal cyswllt ag adar gwyllt, i gyd yn helpu i leihau'r risg o glefydau.  

"Rwyf am ddiolch i'r ceidwaid adar ledled Cymru sy'n parhau i fod yn wyliadwrus ac yn rhoi gwybod am unrhyw arwyddion amheus o glefyd yn brydlon i APHA. Mae eich sylw parhaus i fioddiogelwch yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn heidiau ledled y wlad."