Newyddion
Canfuwyd 25 eitem, yn dangos tudalen 1 o 3
Y Ddirwy am adael i injan redeg yn fwy na threblu wrth i Gymru fynd i'r afael â llygredd aer
- Bydd y ddirwy am adael i injan cerbyd redeg wrth fod wedi parcio yn codi o £20 i rhwng £75 a £150 o 30 Medi 2026.
- Nod y newid yw diogelu iechyd y cyhoedd drwy leihau llygredd aer, sy'n cyfrannu at glefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint ac yn effeithio'n anghymesur ar blant a phobl agored i niwed.
- Nododd y Gweinidog Cabinet, Llyr Gruffydd, y newid wrth ymweliad ag Ysgol Gynradd Maerun yng Nghasnewydd, lle mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i atal pobl rhag gadael eu hinjans i redeg.
Trefniadau newydd yn lleihau dyblygu ar gyfer ffermwyr y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Ni fydd angen i ffermwyr sy'n aelodau o gynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) gwblhau gofynion ‘Mesur’ a ‘Cynllunio’ Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) ar wahân ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) 2026.
Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr gyda 'sicrwydd, hyblygrwydd a chefnogaeth'
- Mae taliadau ymlaen llaw ar gyfer busnesau fferm yn codi o 70% i 80%, gan leddfu pwysau llif arian a achosir gan yr amodau eithriadol o anodd y mae ffermwyr wedi'u hwynebu eleni.
- Mae ffermwyr yn cael mwy o amser i reoli slyri yn ddiogel, gan y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i ymestyn y cyfnod agored ar gyfer lledaenu hyd at 15 Tachwedd 2026, gan ymateb yn uniongyrchol i effeithiau sychder yr haf hwn.
- Dywed y Gweinidog mai rhoi amser ychwanegol i ffermwyr ledaenu'n ddiogel a lleihau lefelau 'bellach yw'r dewis amgylcheddol mwyaf cyfrifol'
Dweud eich dweud am bwerau newydd i ddelio â'r sbwriel ar ochr y ffordd
- Gallai perchnogion cerbydau gael eu dirwyo am sbwriel sy’n cael ei daflu o’u ceir
- Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn bla ar gymunedau, yn niweidio bywyd gwyllt ac mae'n anodd ei reoli o dan y gyfraith bresennol
- Rydyn ni'n gofyn ichi am eich barn ac am dystiolaeth fel rhan o ymgynghoriad ehangach ar gynaliadwyedd amgylcheddol fydd ar agor tan 14 Hydref
Fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru yn lleihau'r defnydd o ddiesel ac yn cryfhau diogeledd ynni
Mae dadansoddiad gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru bellach yn osgoi cost flynyddol a fyddai wedi’i wario ar ddiesel o hyd at £3.7 miliwn (2.4 miliwn litr).
Casglu arbenigwyr bwyd a ffermio blaenllaw ynghyd i helpu i fwydo dyfodol Cymru
- Penodi aelodau i Weithgor Arbenigol i ddatblygu'r Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru
- Cyhoeddi Cylch Gorchwyl sy'n rhestru'r pedwar piler ar gyfer system fwyd wydn a chynaliadwy
- Bwriad i gyflymu gweithredu cynnar ar fwyd mewn ysgolion, garddwriaeth fwytadwy a'r gadwyn gyflenwi cig
Cyfle i fynegi eich barn ar fesurau diogelu newydd ar gyfer morloi ac ysgyfarnogod
- Bydd ymgynghoriad pedair wythnos yn agor ar 21 Medi yn ceisio barn ar fesurau newydd i ddiogelu morloi ac ysgyfarnogod
- Mae'r cynigion yn cynnwys trosedd newydd am aflonyddu ar forloi a thymor cau i amddiffyn ysgyfarnogod yn ystod eu cyfnod bridio
- Gall pobl rannu eu barn unwaith y bydd yr ymgynghoriad yn lansio yn ddiweddarach y mis hwn
Mwy na 100 o achosion o'r Tafod Glas wedi'u cadarnhau yng Nghymru wrth i filfeddygon a ffermwyr gael eu hannog i frechu da byw
- Mae achosion yn parhau i gynyddu yng Nghymru ac ar draws Prydain Fawr
- Mae gofynion profi ac adrodd yng Nghymru yn parhau i fod yn un peth
- Anogir ceidwaid i drafod brechu gyda'u milfeddyg a rhaid iddynt roi gwybod ar unwaith os ydynt yn amau unrhyw achosion
Trigolion Aberdaugleddau yn helpu i lunio rhwydwaith cymorth llifogydd cenedlaethol newydd yn dilyn llifogydd yn eu hardal
- Bydd Grŵp Llywio'n cael ei sefydlu i helpu i greu corff annibynnol i gynnig cefnogaeth ymarferol i gymunedau cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
- Mae'r cyhoeddiad yn dilyn ymweliad ag Aberdaugleddau, lle mae amddiffynfeydd llifogydd newydd yn cael eu hadeiladu.
- Bydd aelodau newydd yn cael eu penodi i'r pwyllgor sy'n cydlynu'r strategaeth llifogydd ledled Cymru.
Gwaith yn dechrau ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru
- Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau gwaith ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru, sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli natur gyda'i gilydd yn hytrach nag fel materion ar wahân.
- Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu Bwrdd Hinsawdd a Natur, dan gadeiryddiaeth Gweinidog y Cabinet, Llyr Gruffydd, i helpu i lunio'r cynllun a sicirhau cyflawniad.
- Mae'r cynllun yn gosod targed o sero net erbyn 2040 ac adferiad natur sylweddol erbyn 2050.
Prosiectau yn Sir Benfro a Gogledd Cymru yn cael eu hestyn yn y frwydr yn erbyn TB mewn gwartheg
- Y Llywodraeth newydd wedi ymrwymo i ddileu TB mewn gwartheg
- Prosiectau yn Sir Benfro a Gogledd Cymru wedi cael eu hestyn yn dilyn llwyddiannau
- Cydweithrediad cryf rhwng ffermwyr, milfeddygon, y byd academaidd a'r llywodraeth yn allweddol i frwydro yn erbyn TB mewn gwartheg
Cymorth ar gael i ffermwyr wrth i'r tywydd sych barhau
- Grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer tyllau turio, cynaeafu dŵr ac awyru
- Rhanddirymiadau dros dro ar gael i ffermwyr yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a ffermwyr sy'n cyflawni contractau cynlluniau paratoi.
- Canllawiau ar les anifeiliaid mewn tywydd eithafol ar gael