Newyddion

Canfuwyd 9 eitem

Welsh Government

Y Ddirwy am adael i injan redeg yn fwy na threblu wrth i Gymru fynd i'r afael â llygredd aer

  • Bydd y ddirwy am adael i injan cerbyd redeg wrth fod wedi parcio yn codi o £20 i rhwng £75 a £150 o 30 Medi 2026. 
  • Nod y newid yw diogelu iechyd y cyhoedd drwy leihau llygredd aer, sy'n cyfrannu at glefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint ac yn effeithio'n anghymesur ar blant a phobl agored i niwed. 
  • Nododd y Gweinidog Cabinet, Llyr Gruffydd, y newid wrth ymweliad ag Ysgol Gynradd Maerun yng Nghasnewydd, lle mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i atal pobl rhag gadael eu hinjans i redeg. 
Welsh Government

Dweud eich dweud am bwerau newydd i ddelio â'r sbwriel ar ochr y ffordd

  • Gallai perchnogion cerbydau gael eu dirwyo am sbwriel sy’n cael ei daflu o’u ceir 
  • Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn bla ar gymunedau, yn niweidio bywyd gwyllt ac mae'n anodd ei reoli o dan y gyfraith bresennol
  • Rydyn ni'n gofyn ichi am eich barn ac am dystiolaeth fel rhan o ymgynghoriad ehangach ar gynaliadwyedd amgylcheddol fydd ar agor tan 14 Hydref 
Welsh Government

Fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru yn lleihau'r defnydd o ddiesel ac yn cryfhau diogeledd ynni

Mae dadansoddiad gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru bellach yn osgoi cost flynyddol a fyddai wedi’i wario ar ddiesel o hyd at £3.7 miliwn (2.4 miliwn litr).

Welsh Government

Gwaith yn dechrau ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau gwaith ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru, sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli natur gyda'i gilydd yn hytrach nag fel materion ar wahân.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu Bwrdd Hinsawdd a Natur, dan gadeiryddiaeth Gweinidog y Cabinet, Llyr Gruffydd, i helpu i lunio'r cynllun a sicirhau cyflawniad.
  • Mae'r cynllun yn gosod targed o sero net erbyn 2040 ac adferiad natur sylweddol erbyn 2050.
Welsh Government

Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian

Mae Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i'r digwyddiadau ynn Ngwaelod-y-garth.

WNS 220626 Minister Barry Island 01

Prosiectau arfordirol yng Nghymru i adfer moroedd a chryfhau cymunedau

  • Saith prosiect ar draws chwe ardal awdurdod lleol yn derbyn cyfran o £540,761
  • Cyllid yn cefnogi adfer wystrys, monitro morol, gwelliannau harbwr a datblygu llwybrau bwyd môr
  • Y cynllun wedi'i gyflwyno drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru
Welsh Government

Mwy na £10 miliwn i adfer natur ledled Cymru, wrth i'r Gweinidog nodi blaenoriaethau amgylcheddol a gwledig

  • £10 miliwn i adfer bioamrywiaeth, creu swyddi ac atgyfnerthu cysylltiadau cymunedau â'r amgylchedd naturiol.
  • Cynllun Hinsawdd a Natur Newydd i gyflawni sero net erbyn 2040 ac adfer natur yn sylweddol erbyn 2050.
  • Gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau cyllideb amlflwyddyn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.