Fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru yn lleihau'r defnydd o ddiesel ac yn cryfhau diogeledd ynni
Welsh public sector EV fleet cuts diesel use and strengthens energy security
Mae dadansoddiad gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru bellach yn osgoi cost flynyddol a fyddai wedi’i wario ar ddiesel o hyd at £3.7 miliwn (2.4 miliwn litr).
Ar ôl caniatáu ar gyfer cost gwefru'r cerbydau, amcangyfrifir yr arbedir rhwng £1.4 miliwn a £1.9 miliwn yn flynyddol yn dibynnu ar y tariff a dalwyd gan y corff gweithredu.
Mae'r fflyd cerbydau trydan yn helpu cyrff cyhoeddus i leihau costau gweithredu ar adeg pan fo cyllidebau yn brin ac maent wedi lleihau eu hamlygiad i brisiau tanwydd ffosil byd-eang anwadal. Yn ystod sioc prisiau olew 100 diwrnod, yn debyg i'r effeithiau diweddar ar y farchnad a oedd yn gysylltiedig â'r Unol Daleithiau ac Iran, byddai fflyd cerbydau trydan Cymru yn osgoi tua £200,000 i £280,000 o gostau diesel ychwanegol.
Effaith weithredol ac ariannol
Mae'r dadansoddiad yn seiliedig ar ddata ar draws fflyd sector cyhoeddus Cymru. Mae'r fflyd honno'n cynnwys 2,045 o gerbydau trydan: ceir, cerbydau masnachol ysgafn, bysiau mini, cerbydau casglu sbwriel, cerbydau masnachol trwm, bysiau a pheiriannau arbenigol.
Gan ddefnyddio tybiaethau sy'n seiliedig ar gategori fflyd sef milltiroedd, defnydd o ddiesel wedi'i ddadleoli, a defnydd trydan cerbydau trydan, mae'r dadansoddiad yn amcangyfrif bod:
- 2.423 miliwn o litrau o ddiesel bob blwyddyn heb eu prynu
- 8.6 GWh o drydan wedi’i ddefnyddio gan y fflyd cerbydau trydan bob blwyddyn
- £3.7 miliwn o ddeisel heb ei brynu bob blwyddyn, gan ddefnyddio'r pris diesel diweddaraf heb gynnwys TAW
- £1.4 miliwn i £1.9 miliwn o arbedion costau ynni net y flwyddyn, yn seiliedig ar dybiaethau prisiau trydan annomestig sylweddol a sylweddol iawn
- £200,000 i £280,000 o amlygiad ychwanegol i brisiau diesel wedi'i osgoi yn ystod sioc prisiau olew 100 diwrnod
Manteision diogeledd ynni
Mae'r newid i gerbydau trydan yn lleihau dibyniaeth sector cyhoeddus Cymru ar ddiesel, tanwydd sy'n cael ei fasnachu'n fyd-eang sy'n agored i farchnadoedd olew rhyngwladol a tharfu geo-wleidyddol.
Trwy symud y galw am ynni fflyd o ddiesel i drydan, gall cyrff cyhoeddus leihau eu hamlygiad i gynnydd sydyn mewn prisiau tanwydd a gwneud mwy o ddefnydd o drydan a gynhyrchir yn y DU. Gellir cyflawni arbedion a gwydnwch pellach trwy gyfuno gwefru cerbydau trydan â systemau depo clyfar, cynhyrchu adnewyddadwy ar y safle, storio mewn batri a seilwaith gwefru a rennir.
Gall y dull hwn helpu cyrff cyhoeddus i symud o ddisodli cerbydau yn unig i ddatblygu systemau ynni lleol mwy gwydn sy'n cefnogi gweithrediadau fflyd, lleihau'r risgiau o ran pris tanwydd a gwneud gwell defnydd o asedau'r sector cyhoeddus.
Manteision ansawdd aer ac allyriadau
Mae fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru bellach yn dileu allyriadau egsôst diesel yn uniongyrchol o leoliadau gwasanaeth cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys depots, ysgolion, ysbytai, canol trefi ac ardaloedd preswyl. Trwy ddisodli cerbydau diesel â cherbydau di-allyriadau, mae cyrff cyhoeddus yn lleihau llygredd o’r beiben fwg yn lleol mewn mannau lle mae gweithgarwch fflyd yn digwydd bob dydd.
Amcangyfrifir hefyd y bydd y fflyd cerbydau trydan yn arbed tua 6,151 tunnell o CO₂e o allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r tarddle i’r olwyn bob blwyddyn, a gwerth carbon dangosol o oddeutu £1.7 miliwn. Efallai y bydd llawer o gerbydau yn cael eu gwefru gan ddefnyddio trydan adnewyddadwy ar y safle, a allai leihau allyriadau ymhellach yn dibynnu ar y sail cyfrifyddu allyriadau a ddefnyddir.
Dywedodd Jim Cardy, Uwch Reolwr Rhaglen, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru:
"Mae sector cyhoeddus Cymru eisoes yn gweld budd ymarferol wrth newid i gerbydau trydan. Mae'r ffigyrau hyn yn dangos bod cerbydau trydan nid yn unig yn lleihau allyriadau, maen nhw hefyd yn helpu cyrff cyhoeddus i leihau costau gweithredu a lleihau eu hamlygiad i farchnadoedd tanwydd ffosil anwadal."
"Y cam nesaf yw adeiladu ar y cynnydd hwn drwy gefnogi mwy o fflyd sector cyhoeddus Cymru i drosglwyddo i gerbydau di-allyriadau, wrth ddatblygu'r systemau ynni clyfar sydd eu hangen i'w cefnogi. Gall depots clyfar, cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle, storio mewn batris a seilwaith gwefru a rennir helpu i gynyddu arbedion, cryfhau diogeledd ynni a gwneud gweithrediadau fflyd y sector cyhoeddus yn fwy gwydn."
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd:
"Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos bod y newid i gerbydau trydan yn darparu manteision gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
"Mae'r llywodraeth newydd hon wedi ymrwymo i fabwysiadu cerbydau trydan ymhellach ar draws gwasanaethau cyhoeddus; lleihau'r defnydd o ddiesel, gostwng costau gweithredu, lleihau amlygiad i brisiau tanwydd cynyddol a gwneud gwell defnydd o arian cyhoeddus.
"Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi bod â rhan bwysig wrth gefnogi'r cynnydd hwn, gan helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus i wneud newidiadau ymarferol sy'n cryfhau gwydnwch ynni, lleihau allyriadau a darparu gwerth hirdymor i gymunedau Cymru."