Diweddariad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, ar danau gwyllt ledled Cymru
Update from the Cabinet Minister for Local Government, Housing and Planning, Siân Gwenllian, on wildfires across Wales
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, wedi cyhoeddi'r diweddariad canlynol ar danau gwyllt parhaus ledled Cymru.
Wrth i'n gwasanaethau brys barhau i ymateb i nifer o danau gwyllt ledled Cymru, gyda gwaith yn mynd rhagddo i gyfyngu ar ddau dân sylweddol yn y Rhinogydd ger Harlech, ac ym Mlaenafon, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gweithrediadau presennol a'r hyn yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth.
Mae'r ymateb amlasiantaethol i'r ddau dân yn cael ei reoli drwy grwpiau cydlynu tactegol, a gafodd eu rhoi ar waith ar 15 Gorffennaf yn achos Harlech ac yn gynharach yn yr wythnos yn achos Blaenafon. Mae'r grwpiau hyn sy'n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a'r lluoedd arfog yn cael eu cadeirio gan y Gwasanaethau Tân ac Achub ac yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae'r dull hwn yn galluogi penderfyniadau i gael eu gwneud yn gyflym, adnoddau i gael eu cydlynu'n effeithiol, a chymorth i gael ei gyfeirio at y mannau lle mae ei angen fwyaf.
Mae'n bwysig imi bwysleisio bod ein diffoddwyr tân wedi'u hyfforddi'n arbennig i ymdrin â thanau gwyllt, ac ar hyn o bryd mae'r criwiau'n rheoli'r tanau ar y tir drwy ddefnyddio ‘toriadau tân’ naturiol, creu ‘toriadau tân’ newydd, a gwlychu mannau poeth.
Mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub yn gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill, gan neilltuo adnoddau i weithrediadau cyfyngu er mwyn atal y tanau rhag ymledu. Mae cymorth ychwanegol hefyd wedi'i drefnu'n llwyddiannus o bob rhan o Gymru a Lloegr drwy drefniadau cymorth cydfuddiannol sefydledig. Mae'r trefniadau hyn yn galluogi Gwasanaethau Tân ac Achub i ofyn am bersonél, cerbydau ac offer arbenigol gan wasanaethau eraill a'u derbyn pan fo digwyddiadau'n rhoi pwysau parhaus ar adnoddau lleol, gan helpu i gynnal gwydnwch gweithredol wrth i griwiau barhau i ymateb ar lawr gwlad. Fodd bynnag, y rhai sydd ar y safle sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu pa adnoddau a galluoedd sydd eu hangen.
Y tanau yn y Rhinogydd ac ym Mlaenafon yw'r ddau ddigwyddiad tân gwyllt mwyaf sylweddol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r ddau yn parhau i fod yn weithredol ac yn cael eu rheoli, gan adlewyrchu ymdrechion y rhai sy'n rhan o'r gwaith. Mae tanau gwyllt eraill wedi'u rhoi dan reolaeth yn llwyddiannus ac maent bellach yn cael eu monitro a'u gwlychu, gan ddangos gwaith caled, arbenigedd a phroffesiynoldeb ein gwasanaeth tân.
Mae'r tân yn y Rhinogydd wedi datblygu'n raddol, ac mae'r gwasanaethau brys wedi ein hysbysu bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran mynd i'r afael ag ef ar ôl i'r ardal yr effeithiwyd arni ehangu. Rwyf wedi cael cadarnhad bod cerbydau ychwanegol wedi'u defnyddio, bod ‘toriadau tân’ wedi'u creu a bod asedau coedwigaeth allweddol wedi'u diogelu. Mae gwaith yn parhau ar y safle, a byddaf yn cael briff pellach yn y dyddiau nesaf gan y rhai sy'n rhan o'r gwaith.
Y tân ym Mlaenafon yw'r flaenoriaeth ar hyn o bryd ar gyfer gweithrediadau ar y tir. Mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y safle yn gwneud gwaith cyfyngu heriol mewn amodau anodd. Mae'r digwyddiad wedi cynhyrchu cryn dipyn o fwg, ac rwy'n gwybod y bydd hynny'n peri pryder i'r Aelodau sy'n cynrychioli'r ardal ac i drigolion lleol. Fodd bynnag, mae swyddogion wedi rhoi gwybod nad oes unrhyw fygythiad i fywyd nac i eiddo ar hyn o bryd. Mae disgwyl i'r tân barhau i losgi am sawl diwrnod, ac mae diffoddwyr tân yn aros ar y safle i'w atal rhag ymledu ymhellach a pheryglu bywydau, bywyd gwyllt ac eiddo.
Mae cymorth o'r awyr a'r defnydd o hofrenyddion wedi bod yn destun cryn ddiddordeb, gan gynnwys a allai'r lluoedd arfog neu ddarparwyr sifil a phreifat helpu yn hyn o beth. Yn gyntaf, hoffwn bwysleisio nad oes gan y lluoedd arfog unrhyw allu o gwbl yn y DU i ymladd tanau o'r awyr, felly ni allwn ofyn am eu cymorth. Hoffwn bwysleisio hefyd nad yw darparu gallu cyffredinol i ymladd tanau o'r awyr ledled Cymru yn rhan o gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Ystad Goed Gyhoeddus Llywodraeth Cymru sy’n dod o dan eu cylch gwaith nhw. Y Gwasanaethau Tân ac Achub sy'n arwain yr ymateb gweithredol i danau gwyllt, gan gynnwys diffodd tanau, sicrhau diogelwch diffoddwyr tân, rheoli digwyddiadau a gwneud penderfyniadau ynghylch tactegau a defnyddio adnoddau. Mae barn wahanol ymhlith y gwasanaethau brys a'r asiantaethau cysylltiedig ynghylch rôl cymorth diffodd tanau â hofrenyddion, ond gofynnwyd am gymorth o'r fath gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ar safle'r Rhinogydd. Rwy'n bwriadu adolygu'r galluoedd sydd ar gael ar hyn o bryd i ymladd tanau gwyllt, gan gynnwys cymorth o'r awyr, er mwyn nodi pa alluoedd ychwanegol y gallai fod eu hangen a pha gostau posibl a allai godi (gan gydnabod bod y rhain yn faterion sy'n effeithio ar y DU gyfan ac y bydd angen trafodaethau ledled y DU yn eu cylch).
Yn benodol, er bod tanau gwyllt wedi bod yn risg ddifrifol ers tro mewn sawl rhan o Gymru, mae newid hinsawdd yn cynyddu'r risg honno, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd poeth eithafol yn yr haf. Mae hwn yn fater yr ydym yn ei gymryd o ddifrif iawn fel Llywodraeth wrth inni geisio sicrhau ein bod yn gallu gwrthsefyll yr effeithiau yn y tymor hwy.
Hoffwn ymuno â'r Aelodau i fynegi ein cefnogaeth lawn, ledled y Llywodraeth, i'n diffoddwyr tân, ymatebwyr eraill a gwirfoddolwyr lleol. Gwn fod y gefnogaeth honno'n cael ei rhannu ar draws y Senedd. Rydym yn cydnabod mai eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a'u hymdrechion diflino sy'n haeddu ein canmoliaeth uchaf wrth iddynt barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu ein cymunedau a chadw pobl yn ddiogel.
Hoffwn hefyd gydnabod a diolch i gymunedau lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod yr hyn y gwn ei fod yn gyfnod pryderus ac anodd, yn enwedig i'r rhai sy'n byw yn agos at yr ardaloedd yr effeithir arnynt. Mae'n parhau'n bwysig bod pobl yn dilyn y cyngor diogelwch a roddir gan y gwasanaethau brys a phartneriaid lleol ac yn cadw draw o danau sy’n parhau i losgi. Rwy'n ddiolchgar am y modd tawel, cyfrifol a chefnogol y mae cymunedau wedi ymateb.