Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, ar danau gwyllt ledled Cymru

Statement from the Cabinet Minister for Local Government, Housing and Planning, Siân Gwenllian, on wildfires across Wales

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i'r digwyddiadau tanau gwyllt parhaus ledled Cymru.

“Rydym yn ymwybodol o sawl tân gwyllt sy'n effeithio ar gymunedau ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae ymateb ein diffoddwyr tân, gwasanaethau brys ac asiantaethau partner wedi bod yn eithriadol ac yn dangos ymroddiad a phenderfyniad anhygoel mewn amodau gwirioneddol anodd, ac rwyf am dalu teyrnged i bob un ohonynt.

"Mae tanau gwyllt wedi bod yn risg ddifrifol mewn sawl rhan o Gymru am amser ac mae newid hinsawdd yn sicr o gynyddu'r risg honno, yn enwedig yn ystod tywydd gwres yr haf.

“Mae ein diffoddwyr tân wedi'u hyfforddi i fynd i'r afael â thanau gwyllt ac mae criwiau wrthi'n rheoli'r tanau ar lawr gwlad drwy ddefnyddio toriadau tân naturiol, creu toriadau tân newydd, a lleihau mannau poeth.

“Maen nhw'n dod â'r holl arbenigedd hwnnw i'r afael â thân y Rhinogydd, a gobeithiwn y bydd hynny'n talu ar ei ganfed yn fuan. Ond gyda mwy o dywydd poeth a sych i'w ddod, rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus. Er nad oes unrhyw allu diffodd tân o'r awyr ar gael i'w ddefnyddio yn unman yn y DU ar hyn o bryd i gefnogi'r ymdrechion hyn, gwnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gais ffurfiol am gymorth cydfuddiannol ar ffurf staff ac offer tân, ac rwy'n falch bod hyn wedi'i gytuno a bod yr adnoddau hynny bellach ar lawr gwlad yn cefnogi criwiau.

"Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd yn mynd i'r afael â thân gwyllt anodd a graddfa fawr ym Mlaenafon am y trydydd diwrnod. Disgwylir i'r tân barhau i losgi am sawl diwrnod ac mae diffoddwyr tân yn aros yn y fan i'w atal rhag lledaenu ymhellach a rhoi bywydau, bywyd gwyllt ac eiddo mewn perygl.

"Hoffwn ddiolch i gymunedau lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad. Nid yw dilyn cyngor diogelwch pan fyddwch chi'n agos at adref ac yn poeni byth yn hawdd, ac rwy'n ddiolchgar am y ffordd dawel a chyfrifol mae pobl wedi ymateb.

"Diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth a byddwn yn parhau i gefnogi'r ymateb cyhyd ag y bo angen."

DIWEDD